Mynd i’r afael â llygredd aer yw un o’r heriau mwyaf cymhleth sy’n wynebu Cymru, yn ôl y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

Ar Ddiwrnod Aer Glân (17 Mehefin), dywed Lee Waters nad oes ateb syml i’r her.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â chynlluniau i gyflwyno Deddf Aer Glân, a fydd yn nodi fframwaith ar gyfer pennu targedau ansawdd aer newydd.

Er hynny, mae elusennau wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i’w hannog i gyflymu’r gwaith ar y Ddeddf.

“Llawer rhy araf”

Mae Awyr Iach Cymru, clymblaid o elusennau a sefydliadau, wedi croesawu’r Papur Gwyn ar y Bil, ond wedi beirniadu’r amserlen fel un “llawer rhy araf”.

Roedd y glymblaid wedi galw am gyflwyno’r ddeddf o fewn 100 diwrnod ar ôl yr etholiad, ond gyda hynny’n edrych yn annhebygol, maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno map ar gyfer y Bil Aer Glân a gosod dyddiad yn y flwyddyn seneddol gyntaf hon er mwyn ei chyflwyno i’r Senedd.

Mae ansawdd aer gwael yn cyfrannu at fwy na 1,000 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn ac, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, ansawdd aer gwael yw’r risg iechyd amgylcheddol mwyaf yn fyd-eang.

‘Lladdwr distaw’

“Mae Llygredd Aer yn niweidio ein hysgyfaint yn ddifrifol ac mae’n peryglu ein hiechyd,” meddai Joseph Carter, cadeirydd Awyr Iach Cymru, a Phennaeth Asthma UK a Sefydliad Ysgyfaint Prydeinig Cymru.

“Mae’r lladdwr distaw hwn yn yr awyr rydym yn ei anadlu ar y ffordd i’r gwaith, yr ysgol, ac wrth i ni fynd o gwmpas bywyd bob dydd – mewn lefelau sy’n llawer uwch na therfynau Sefydliad Iechyd y Byd.

“Mae llygredd aer hefyd yn ddrwg i’n planed. Mae’r cynnydd mewn allyriadau sy’n newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar natur a chymunedau yng Nghymru ledled y byd.

“Er mwyn achub bywydau, a diogelu ein hiechyd a’r amgylchedd, mae’n rhaid i ni sicrhau bod Deddf Aer Glân yn cael ei chynnwys yn y datganiad deddfwriaethol cyntaf. Dyna pam rydym wedi ysgrifennu at Mark Drakeford a’i Weinidogion, gan eu hannog i wneud yr union beth hwnnw.

“Os byddwn yn bwrw ymlaen ar y cyflymder presennol, gallai fod mor hwyr â 2024 cyn i unrhyw ddeddfwriaeth gael ei phasio a thymor arall cyn i’r rheoliadau ddod i rym.”

Achub bywydau

“Mae’n wych gweld cefnogaeth drawsbleidiol gref i gael y map ffyrdd cynnar hwnnw ar gyfer deddfwriaeth, yn enwedig gan fod y Papur Gwyn ar y ddeddfwriaeth Aer Glân eisoes wedi bod yn destun ymgynghoriad ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â hyn,” meddai Huw Irranca-Davies AS, cadeirydd newydd y Grŵp Trawsbleidiol.

“Bydd gweithredu buan ar ddeddfwriaeth uchelgeisiol yn achub bywydau, yn creu cymunedau lleol iachach ac yn dod ag enillion amgylcheddol i’r genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.

“Bydd llywodraeth Cymru yn cael cefnogaeth gref ledled Cymru os yw’n nodi’r map ac amserlen gyflym ar gyfer newid.”

“Hawl, nid braint”

Wrth siarad mewn digwyddiad Aer Glân yng Nghasnewydd, dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, fod “rhaid sicrhau” bod plant yn gallu dychwelyd i amgylchedd iach wrth i gyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio.

“Mae ffyrdd tawelach, aer glannach, llai o sŵn a chysylltiad agosach â natur i gyd yn ganlyniad i’r newidiadau a achoswyd gan y pandemig,” meddai Lee Waters.

“Nawr mae angen i ni ddefnyddio’r cyfle hwn i lywio’r ffordd rydym yn ymateb i broblemau llygredd aer er mwyn diogelu iechyd ein plant a sicrhau dyfodol glannach.

“Nid yw parhau fel yr oeddem yn opsiwn, mae angen i ni wneud pethau’n wahanol a bod yn barod i fod yn ddewr.

“Mae cael mynediad i amgylchedd iach ac anadlu aer glân yn hawl, nid braint!”

Bydd y Ddeddf Aer Glân yn gwella gallu Llywodraeth Cymru i asesu a monitro ansawdd aer er mwyn helpu i leihau effaith aer gwael ar iechyd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol, yn ogystal â chreu fframwaith ar gyfer gosod targedau.