Mae cofeb i Farcwis cyntaf Ynys Môn wedi derbyn £872,800 er mwyn gwneud gwaith atgyweirio ac adnewyddu.

Cafodd Tŵr Marcwis yn Llanfairpwll ei adeiladu yn 1817 er mwyn dathlu dewrder Henry Paget, a gollodd ei goes ym mrwydr Waterloo.

Roedd y gofeb, sy’n 29 metr o uchder, yn atyniad poblogaidd i dwristiaid a phobol leol am genedlaethau, ond caeodd y safle yn 2014 am resymau diogelwch.

Gyda’r cyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol bydd yr Anglesey Column Trust yn gallu gweithredu â’i chynlluniau i adfer ac ailgor y golofn, ac adeiladu platfform gwylio.

Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys darparu man croeso i ymwelwyr ym mwthyn Marcwis cyntaf Môn, gydag adnoddau dehongli yn adrodd hanes codi’r Tŵr, a hanes y Marcwis.

Dehongliad artist o’r safle

Bydd chwe swydd yn cael eu creu, cyfleoedd i wirfoddoli, a siop a chaffi’n agor ar y safle.

“Cam yn nes”

“Mae hwn yn newydd gwych i’n prosiect ac rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am ddyrannu’r grant i ni ac hefyd wrth gwrs i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy’n gwneud y cyllid yn bosibl,” meddai Marcwis presennol Môn, a Chadeirydd yr Anglesey Column Trust.

“Ers i ni lansio’r ymgyrch i adnewyddu ac ailagor y Tŵr, mae’r gefnogaeth a’r adborth positif rydym wedi eu derbyn gan bobol leol a grwpiau diddordeb wedi bod yn arbennig.

“Yr ymateb yr ydym yn ei gael dro ar ôl tro ydi bod pobol eisiau gallu mwynhau safle’r Tŵr unwaith eto a bod yr hanes a threftadaeth sy’n gysylltiedig ag o yn bwysig iawn i nifer fawr o bobol.

“Mae swm sylweddol o arian cyfatebol i’w godi o hyd i gyrraedd y targed llawn, ond mae newyddion heddiw’n lam mawr yn y cyfeiriad cywir ac mae’n wych gwybod ein bod nawr gam yn nes at ddiogelu’r safle ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Er mwyn sicrhau’r grant hwn gan y Loteri Gendlaethol, ac i dalu costau’r prosiect yn llawn, mae’n rhaid i’r Ymddiriedolaeth godi’r £580,000 sy’n weddill.

Maen nhw eisioes wedi derbyn addewidion cyllido o £320,000, a’r gobaith yw sicrhau’r holl gyllid a chefnogaeth, a dechrau’r gwaith ar y safle ym mis Medi eleni.

Y bwriad yw agor fis Mehefin y flwyddyn nesaf, meddai’r Anglesey Column Trust.