Mae llys yn Girona wedi penderfynu bod yn rhaid i 28 o swyddogion yr heddlu fynd o flaen eu gwell am eu gweithredoedd yn ystod refferendwm annibyniaeth Catalwnia.
Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud â digwyddiadau mewn sawl gorsaf bleidleisio yn y ddinas yng ngogledd Catalwnia, ac yn Aiguaviva, pentref cyfagos.
Dywedodd y llys y dylen nhw gael eu herlyn am achosi “anafiadau” neu “anafiadau bychan”, ond nid am droseddau yn erbyn gonestrwydd moesol nac arteithio.
Mae 27 o’r unigolion yn aelodau o Heddlu Cenedlaethol Sbaen, a’r llall yn aelod o’r Gwarchodlu Sifil.
Roedd peth trais yn ystod refferendwm Catalwnia ar Hydref 1 2017, gyda 1,066 o bobol angen sylw meddygol yn sgil ymgyrchoedd heddlu Sbaen, meddai Adran Iechyd Catalwnia.
Roedd y refferendwm yn anghyfreithlon yng ngolwg Sbaen, ac mae saith gwleidydd a dau ymgyrchydd sydd o blaid annibyniaeth yn treulio cyfnodau yn y carchar am annog gwrthryfel, gyda rhai wedi’u cyhuddo o gamddefnyddio cyllid hefyd.