Mae cronfa gwerth £3m sy’n cael ei threialu gan Lywodraeth Cymru mewn pedair tref yng ngogledd Cymru i annog entrepreneuriaid i sefydlu yno, bellach ar agor ar gyfer mynegi diddordeb.

Bydd y gronfa’n agor ar gyfer ceisiadau o Fehefin 21, gyda’r cynllun yn para am flwyddyn yn y lle cyntaf.

Bydd y gronfa yn cynorthwyo entrepreneuriaid i sefydlu busnesau ym Mangor, Bae Colwyn, y Rhyl a Wrecsam.

Mae’r arian yn gyfuniad o gyllid grant a benthyciadau i helpu entrepreneuriaid sy’n dechrau arni.

Cafodd yr elfen fenthyciadau ei datblygu gyda Banc Datblygu Cymru ac mae benthyciadau o £1,000 hyd at uchafswm o £50,000 ar gael.

“Mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio’n ddifrifol ar ganol ein trefi a nod y prosiect peilot hwn yw annog a chefnogi busnesau newydd yng nghanol pedair o drefi yn y gogledd,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru.

“Bydd y gronfa’n cymell entrepreneuriaid ac yn rhoi help llaw iddynt sefydlu busnesau yno.

“Y nod yw nid yn unig cynyddu busnesau yng nghanol y trefi hynny ond hefyd, cefnogi busnesau newydd.”

‘Potensial mawr’

“Mae’r flwyddyn a hanner diwethaf wedi bod yn gyfnod eithriadol o heriol i fusnesau a chanol ein trefi,” meddai Lesley Griffith, y gweinidog sydd â chyfrifoldeb am ogledd Cymru.

“Mae potensial mawr yng nghanol ein trefi, ac rydym am weld hynny’n cael ei wireddu.

“Nod y prosiect peilot hwn yw helpu i annog busnesau newydd i ddefnyddio lle yng nghanol pedair o drefi ledled y Gogledd.

“Bydd prosiectau peilot fel hyn yn helpu canol ein trefi a’n cymunedau i ddelio ag effaith y pandemig.”