Mae’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan yn well nag y mae’r wasg yn ei adlewyrchu.
Dyna ddywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, yn ystod sesiwn dystiolaeth â Phwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin fore heddiw (dydd Iau, Mehefin 17).
Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi, wedi beirniadu Llywodraeth y Deyrnas Unedig sawl gwaith yr wythnos hon, gan eu cyhuddo o danseilio datganoli.
Cynlluniau ariannu ôl-Brexit yw testun ei lid, ac mae wedi lleisio’r gofid penodol yma droeon yr wythnos hon – yn y Senedd, mewn cynhadledd i’r wasg ac mewn cyfweliad papur newydd.
Wrth ymateb i gwestiynau am y berthynas rhwng y ddwy lywodraeth, mynna Simon Hart – cynrychiolydd Llywodraeth San Steffan yng Nghymru – fod popeth yn well nag yr ymddengys.
“Dw i’n credu bod y berthynas, ac mae hyn wedi bod yn wir am beth amser, yn well nag y mae’r wasg yn ei adlewyrchu,” meddai.
“Mae gennym alwad wythnosol gyda phrif weinidogion y gwledydd datganoledig. Michael Gove [yr aelod cabinet] sy’n cadeirio hwnnw.
“Ac mi gafodd uwchgynhadledd rhwng y prif weinidogion a Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig ei chynnal ryw wythnos yn ôl.
“Dw i wedi cyfarfod â Vaughan Gething yn ei rôl newydd.
“Ac er bod yna wahaniaethau sylfaenol o hyd, mae yna awydd i gydweithio lle bo hynny’n bosib.”
Bwriad bod yn “fwy amlwg” yng Nghymru
Er bod Llywodraeth San Steffan “yn parhau’n ymrwymedig” i gydweithio â Llywodraeth Cymru, yn ôl yr Ysgrifennydd, bu iddo gydnabod nad yw popeth yn fêl i gyd.
Dywed fod yna anghydweld ynghylch union ddiffiniad cydweithio, ac roedd yn derbyn bod yna beth anghytuno tros ambell fater.
Un mater sydd wedi esgor ar “densiynau”, meddai, yw penderfyniad Llywodraeth San Steffan i fod yn “fwy amlwg a gweladwy” yng Nghymru.
“Dw i’n credu bod ambell un yn Llywodraeth Cymru yn ystyried hynny’n fygythiad, ac yn credu y dylai popeth rydym ni’n ei wneud fynd trwy Lywodraeth Cymru,” meddai.
“Os oes yna fater lle mae yna densiwn rhwng Vaughan Gething a minnau, hwn yw’r mater hwnnw. Dw i ddim yn credu y dylai deimlo dan fygythiad am ein bod ni eisiau gwneud y pethau yma.
“Ac nid yw’n sathru ar feysydd cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru. Y gwirionedd yw ein bod ni’n bwriadu bownsio yn ôl ag egni i Gymru.”
Yr Undeb
Yn ddiweddarach, dywedodd fod gan Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, ac yntau agweddau gwahanol tuag at yr undeb.
“Dw i’n cael yr argraff, pan mae yntau’n dweud ei fod yn unoliaethwr, mewn gwirionedd mae’n dweud: ‘unoliaethdeb ond ar fy nhelerau i’,” meddai.
“Dw i’n gobeithio y byddai ef yn dweud fy mod i’n anghywir.”
Llechen lan?
Bu David TC Davies, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn Swyddfa Cymru, hefyd yn rhoi tystiolaeth yn y sesiwn, ac roedd yntau’n siarad yn fwy plaen.
Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi galw am lechen lân (reset) o ran y berthynas rhyngddi hi â Llywodraeth San Steffan, ac roedd gan y gweinidog farn ambell air i’w rannu am hynny.
“Mi fyddem yn croesawu llechen lân, dw i’n credu, â Llywodraeth Cymru,” meddai.
“Ond dw i’n credu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn wastad wedi bod â’r agwedd o groesawu perthynas dda gyda Llywodraeth Cymru.
“Dyna pam fod gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn bresennol ym mhob un o gyfarfodydd COBRA [pwyllgor gweinidogol sy’n ymgynnull yn ystod cyfnodau o argyfwng] ers dechrau’r argyfwng.
“Dw i wedi synnu o glywed y feirniadaeth oddi wrth [Lafur] o ystyried bod eu gweinidogion eu hunain wedi helpu i wneud y penderfyniadau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi’u cymryd o ran y pandemig.”