Mae Dave Latham, rheolwr gorsaf dân a thîm bach o bersonél eraill Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi llwyddo i ddringo’r Wyddfa bump o weithiau mewn 24 awr.

Yr her oedd cyrraedd y copa gymaint o weithiau ag yr oedden nhw’n gallu o fewn 24 awr.

Ymgymerodd Dave Latham a’r tîm â’r her i gefnogi Elusen y Diffoddwyr Tân, sefydliad sy’n cynnig cymorth arbenigol i aelodau o gymuned gwasanaethau tân y Deyrnas Unedig.

Mae hyn yn cynnwys personél presennol a rhai sydd wedi ymddeol a’u teuluoedd.

Hyd yma, maen nhw wedi llwyddo i godi swm o £1,830.

“Er bod cyrraedd y copa bum gwaith yn gyflawniad personol gwych, y gwir lwyddiant oedd gwylio’r rhai a ymunodd â mi yn cyflawni eu heriau personol eu hunain ar hyd y daith,” meddai Dave Latham, sy’n byw yn y Drenewydd ond yn gweithio o bencadlys y Gwasanaeth.

“Roedd y gefnogaeth a gafwyd yn anhygoel, a hynny o negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol a galwadau ffôn yn ystod yr her hyd at y cymorth lles a roddwyd i ni wrth droed y mynydd.

“Rwy’n wirioneddol ddiolchgar am gefnogaeth pawb.”