Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu “mwy o gymorth ariannol i fusnesau”.

Daw hyn yn sgil adroddiadau na fydd yno lacio sylweddol ar y cyfyngiadau symud yng Nghymru tan fis Gorffennaf.

Mae’n debyg fod hyn yn bennaf oherwydd y cynnydd mewn achosion o’r amrywiolyn Delta ar draws y Deyrnas Unedig, yn ôl BBC Cymru.

“Nid yw hyn yn syndod, yn enwedig yng ngoleuni’r pryderon ynghylch yr amrywiolyn Delta,” meddai Andrew RT Davies.

“Fodd bynnag, rwy’n gobeithio bod gweinidogion Llafur yn ystyried llacio rhai o’r cyfyngiadau ar ddigwyddiadau bywyd mawr fel priodasau ac angladdau, fel y gellid rhoi rhywfaint o hyblygrwydd iddynt, diolch i’r cynllun brechu gwych.

“Ac yng ngoleuni’r cyfyngiadau parhaus, mae’n amlwg y bydd angen mwy o gymorth ariannol ar fusnesau hefyd a dylai’r Prif Weinidog egluro pa gyllid ychwanegol y bydd ei lywodraeth yn ei ddarparu i ddiogelu swyddi yng Nghymru.”