Mae Cyngor Sir Powys wedi dechrau ar gyfnod gwrthwynebu ar ôl i’r Cabinet roi sêl bendith i’r penderfyniad i newid Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth yn Ysgol Gymraeg.

Mae’r Cyngor bellach wedi cyhoeddi Hysbysiad Statudol yn cynnig newyd categori iaith yr ysgol o ddwy ffrwd i gyfrwng Cymraeg.

Yn ystod y cyfnod gwrthwynebu 28 diwrnod, bydd cyfle i unigolion wrthwynebu’r cynnig ar ffurf llythyr neu e-bost.

Bydd y cyfnod gwrthwynebu’n dod i ben ar Orffennaf 15.

Yn ôl y Cyngor, bydd newid iaith yr ysgol yn digwydd yn raddol o un flwyddyn i’r llall, gan ddechrau gyda’r dosbarth Derbyn fis Medi y flwyddyn nesaf.

Bydd Blynyddoedd 1-6 yn newid un ar y tro bob blwyddyn hyd at fis Medi 2028.

O Fedi 1 y flwyddyn nesaf, byddai’r holl ddisgyblion sy’n cael eu derbyn i’r grŵp blwyddyn Derbyn yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Byddai pob disgybl sy’n cael ei dderbyn i unrhyw grwpiau Blwyddyn arall yn gallu mynegi dewis ar gyfer y ffrwd cyfrwng Cymraeg neu’r ffrwd cyfrwng Saesneg, yn unol â’r trefniadau presennol.

Byddai hyn yn parhau i fod yn wir tan fod categori iaith y flwyddyn berthnasol wedi newid.

Newid Ysgol Bro Hyddgen yn ysgol cyfrwng Cymraeg gam yn nes

Cabinet Cyngor Sir Powys wedi cytuno i gyhoeddi hysbysiad statudol yn cynnig y newid yn ffurfiol

Beirniadu diffyg cyfarfod cyhoeddus wrth ymgynghori ar Ysgol Bro Hyddgen

Huw Bebb ac Elgan Hearn (Gohebydd Democratiaeth Leol)

Yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn unol â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion, medd Cyngor Sir Powys

Cyngor i benderfynu a fydd Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth yn dod yn ysgol Gymraeg i bob oed

“Byddai hyn yn sicrhau bod pob disgybl sy’n mynychu’r ysgol yn cael cyfle i ddod yn gwbl ddwyieithog, yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg”