Gallai Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth ddod yr ysgol Gymraeg gyntaf i bob oed ym Mhowys os caiff cynlluniau eu cymeradwyo.

Mae swyddogion cyngor Powys wedi argymell bod cynlluniau i droi ysgol Machynlleth yn ganolfan ddysgu cyfrwng Cymraeg yn hytrach na’r addysg ddwyieithog a ddarperir ar hyn o bryd, yn cael mynd yn eu blaen.

Cynhaliodd y cyngor ymgynghoriad saith wythnos yn ystod mis Rhagfyr 2020 a mis Ionawr 2021 a bydd canfyddiadau’r adroddiad ymgynghori yn cael eu hystyried gan y Cabinet ddydd Mercher (Mai 12).

Pe bai’n cael sêl bendith, byddai dysgu cyfrwng Cymraeg yn cael ei gyflwyno fesul cam, o flwyddyn i flwyddyn, gan ddechrau gyda’r Dosbarth Derbyn ym mis Medi 2022.

Os caiff ei gymeradwyo, bydd y cyngor yn cyhoeddi hysbysiad statudol sy’n cynnig y newid yn ffurfiol.

Yna byddai’n ofynnol iddo ystyried adroddiad arall i gwblhau’r broses.

“Campws cymunedol newydd gwych”

Dywedodd Dr Caroline Turner, Prif Weithredwr, Cyngor Sir Powys: “Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ar y cynnig hwn.

“Ar ôl ystyried yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad, yr argymhelliad a gaiff ei gyflwyno i’r Cabinet yw parhau â’r cynnig drwy gyhoeddi’r hysbysiad statudol sy’n cynnig y newid yn ffurfiol.

“Er mwyn cyflawni’r nodau a’r amcanion hyn yn ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys, rydym am symud Ysgol Bro Hyddgen ar hyd y continwwm iaith.

“Byddai hyn yn sicrhau bod pob disgybl sy’n mynychu’r ysgol yn cael cyfle i ddod yn gwbl ddwyieithog, yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac felly’n cyfrannu at ddyhead Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Rydym yn datblygu campws cymunedol newydd gwych i Ysgol Bro Hyddgen a chymuned Bro Ddyfi a fydd yn ddatblygiad blaenllaw nid yn unig i’r ardal, ond hefyd i’r sir ac i Gymru.

“Ochr yn ochr â’r datblygiad hwn, rydym am roi cyfle i bob plentyn gael y manteision a ddaw yn sgil addysg ddwyieithog o’r cychwyn cyntaf.”

Bydd Pwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau’r Cyngor yn ystyried y cynnig ddydd Mercher, 12 Mai.