Mae’r Mentrau Iaith a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn cynnal cystadleuaeth er mwyn darganfod ‘chants’ pêl-droed newydd i gefnogi Cymru yn Ewro 2020.
Maent yn galw ar bawb o bob oed dros Gymru i fod yn greadigol a chreu ‘chant’ dwyieithog newydd a’i anfon at y Mentrau Iaith erbyn 12 Mai, 2021.
Bydd rhestr fer yn cael eu dewis gan banel o feirniaid cyn i’r cyhoedd fedru dewis eu ffefryn mewn pleidlais ar y cyfryngau cymdeithasol ddiwedd mis Mai.
Bydd yr enillydd y gystadleuaeth yn cael ymweld â sesiwn ymarfer carfan Cymru, tra bydd enillwyr y gwahanol gategorïau’n derbyn crys wedi ei arwyddo gan garfan Ewro 2020 Cymru.
“Rhan o deulu”
Dywedodd y cerddor a chynhyrchydd, Yws Gwynedd, sy’n un o’r beirniaid: “Mae ‘chants’ yn rhan fawr o fywyd cefnogwr, yn y dorf, ar y bws, yn y dafarn, mae’n gwneud i chi deimlo yn rhan o deulu.
“Dw i’n falch iawn o fod yn feirniaid i’r gystadleuaeth yma ac i ddewis rhestr fer o’r ‘chants’.
“Dw i’n annog pawb i fynd ati i greu ‘chant’ gan obeithio y byddwn yn clywed y rhain ar y terasau yn fuan.”
“Aelod ychwanegol ar y cae”
Ychwanegodd Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Roedd y Wal Goch yn rhan annatod o lwyddiant y tîm yn Ewro 2016.
“Cymaint yw grym eu cefnogaeth fod y chwaraewyr yn teimlo fel petai aelod ychwanegol ar y cae efo nhw!
“Er na fydd cymaint o gefnogwyr yn gallu gwylio’r tîm yn y stadiwm eleni, bydd y ‘chants’ buddugol yn hwb enfawr i’r garfan boed yn Baku neu Bala, Rhufain neu Rhigos.
“Rydym yn falch iawn o bartneriaethu gyda’r Mentrau Iaith ar y gystadleuaeth hon.”
Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.