Mae protest gan bysgotwyr Ffrengig dros hawliau ôl-Brexit ym mhrif borthladd Jersey wedi dod i ben, yn dilyn trafodaethau.
Roedd tua 60 o gychod yn protestio yn St Helier ac anfonwyd dwy o longau’r Llynges Frenhinol a dau gwch Ffrengig i’r ardal.
Yn ystod y brotest, mae’n debyg bod cwch pysgota o Jersey wedi cael ei ramio gan gwch Ffrengig droeon.
Mae’r pysgotwyr Ffrengig yn dadlau fod eu hawliau wedi’u cyfyngu’n annheg gan drwyddedau a gyhoeddir o dan system newydd.
Dywedodd Gweinidog Cysylltiadau Allanol Jersey, Ian Gorst, fod trafodaethau’n “gadarnhaol”.
Fodd bynnag, awgrymodd llefarydd ar ran pysgotwyr o ranbarth Normandi, Ffrainc, nad oedd unrhyw gynnydd wedi’i wneud yn ystod y trafodaethau.
Cefndir
Dechreuodd y ffrae ar ôl i lywodraeth Jersey ddweud y byddai’n ofynnol i gychod Ffrengig gael trwyddedau i barhau i bysgota yn nyfroedd yr ynys o dan delerau’r cytundeb masnach â’r Undeb Ewropeaidd a ddaeth i rym ddydd Gwener ddiwethaf.
Ysgogodd hyn ddicter ymhlith cymunedau pysgota Ffrainc a oedd yn cwyno bod rhai cychod a oedd wedi gweithredu yno ers blynyddoedd yn sydyn yn cael eu cyfyngu.
Mae’r Undeb Ewropeaidd hefyd wedi cwyno i Brydain bod telerau ei gytundeb masnach ar ôl Brexit yn cael eu hanwybyddu.
Ym Mrwsel, dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Ewropeaidd fod “amodau ychwanegol” sy’n gysylltiedig â’r trwyddedau newydd yn torri’r cytundeb fasnach.
“Rydyn ni wedi dweud wrth y Deyrnas Unedig ein bod yn gweld nad yw darpariaethau Cytundeb Masnach a Chydweithredu’r Undeb Ewropeaidd/Deyrnas Unedig, y cytunwyd arnynt yn ddiweddar, wedi’u bodloni yno,” meddai’r llefarydd.
Dywedodd Ian Gorst, fod cynrychiolwyr o lywodraeth yr ynys wedi cwrdd â physgotwyr Ffrainc er mwyn ceisio distawu’r ffrae.
“Mae’n bwysig ein bod yn ymateb i fygythiadau, ond yr ateb i hyn yw parhau i siarad a diplomyddiaeth,” meddai wrth BBC News.
“Nid gweithred o ryfel yw hyn. Mae’n weithred o brotestio”
Cyhoeddodd Stryd Downing ddydd Mercher (Ebrill 5) fod y cychod patrolio HMS Severn ac HMS Tamar yn cael eu hanfon i’r ynys yn dilyn rhybuddion y gallai cychod pysgota Ffrengig geisio blocio porthladd St Helier.
Mynnodd Dimitri Rogoff, sy’n bennaeth grŵp o bysgotwyr Normandi, nad oeddent yn ceisio blocio’r porthladd.
“Nid gweithred o ryfel yw hyn. Mae’n weithred o brotestio,” meddai.
Serch hynny, roedd pryder ar yr ynys y gallai Ffrainc ymateb yn ffyrnig pe na bai’r anghydfod yn cael ei ddatrys.
Yn gynharach yr wythnos hon dywedodd gweinidog morwrol Ffrainc, Annick Girardin, y byddai Paris yn stopio anfon trydan i Jersey – sy’n cael 95% o’i gyflenwad pŵer o Ffrainc – pe na bai’r anghydfod yn cael ei ddatrys.
Dywedodd Ian Gorst fod awdurdodau Jersey yn “hynod ddiolchgar” am gefnogaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae llywodraeth Jersey wedi dweud, o’r 41 o gychod Ffrangeg a wnaeth gais am drwyddedau ddydd Gwener ddiwethaf, nad oedd 17 wedi gallu darparu’r dystiolaeth sydd ei hangen i’w galluogi i barhau fel o’r blaen.
“Mae’n bwysig iawn ein bod yn gallu gweithio gyda’r pysgotwyr hynny i’w helpu i ddarparu’r dystiolaeth angenrheidiol fel y gellir diwygio eu trwyddedau os oes angen.”
“Annheg iawn”
Dywedodd Don Thompson, llywydd Cymdeithas Pysgotwyr Jersey wrth Good Morning Britain: “Ni fyddwn yn plygu i’r cychod Ffrangeg hynny sy’n cael eu gadael i bysgota heb reolaeth, yn anghynaladwy yn ein dyfroedd, tra byddwn ni’n destun pob math o gyfyngiadau.
“Byddai’n annheg iawn ac yn wahaniaethol iawn ar ein fflyd i orfod pysgota yn erbyn y fflyd enfawr [Ffrengig] honno yn ein dyfroedd a gweld nad oes gan y cychod hynny unrhyw gyfyngiadau o gwbl ac i’n cychod fod yn ddarostyngedig i bob math o amodau.”
Mae Josh Dearing, pysgotwr lleol, yn credu nad yw pysgodfeydd Jersey wedi gwneud “dim o’i le”, a bod y pysgotwyr Ffrengig wedi “taflu eu teganau allan o’r pram”.
Ychwanegodd fod ei drwydded bysgota o wedi costio £40,000.
“Gall y Ffrancwyr fod yn elyniaethus. Mae ein holl fywoliaeth yn yr harbwr yna a pe baen nhw eisiau, gallan nhw fod wedi achosi difrod.
“Nid yw pysgodfeydd Jersey wedi gwneud dim o’i le. Maent wedi rhoi’r trwyddedau i bysgotwyr Ffrainc a oedd â hawl iddynt a dyw’r rhai sydd ddim gyda hawl ddim yn cael trwyddedau.
“Dyna ydi bywyd, fel yna mae hi.”