Mae wedi dod i’r amlwg nad yw Michelle Brown yn ymddangos ar bapurau pleidleisio ‘Rhanbarth Gogledd Cymru’ mewn gorsafoedd pleidleisio yn y gogledd orllewin.

Mae golwg360 wedi derbyn cadarnhad bod yr ymgeisydd annibynnol ddim yn ymddangos fel opsiwn i bleidleiswyr yn etholaethau Arfon, yng Ngwynedd, ac etholaeth Ynys Môn.

Yng ngweddill ‘Rhanbarth y Gogledd’ (ardal nad yw’n cynnwys rhan helaeth o Wynedd) mae’n debyg bod y papurau pleidleisio yn gwbl gywir.

Camgymeriad argraffu sydd ar fai, yn ôl swyddogion canlyniadau’r Gogledd Orllewin, ac mae pleidleiswyr bellach yn cael gwybod am y camgymeriad yn y gorsafoedd.

Michelle Brown – wedi’i hepgor o’r papur pleidleisio rhanbarthol mewn gorsafoedd yn y gogledd-orllewin

Y datganiad

Daw’r cadarnhad mewn datganiad ar y cyd gan Colin Everett, Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol Gogledd Cymru; Dilwyn Williams, Swyddog Canlyniadau Gwynedd; ac Annwen Morgan, Swyddog Canlyniadau Ynys Môn.

“Oherwydd camgymeriad argraffu lleol, nid yw Papurau Pleidleisio y Senedd Rhanbarth Gogledd Cymru ar gyfer etholaeth Arfon yng Ngwynedd ac Ynys Môn yn cynnwys yr ymgeisydd rhestredig olaf – Michelle Brown, Annibynnol,” meddai’r datganiad.

“Mae pleidleiswyr nawr yn cael eu hysbysu o’r camgymeriad wrth iddynt fynychu eu gorsafoedd pleidleisio lleol, ac yn dal i gael cyfle i bleidleisio am yr ymgeisydd o’u dewis o’r rhestr lawn o bleidiau ac ymgeiswyr a enwebwyd.

“Mae’r papurau pleidleisio cywir yn cael eu defnyddio mewn rhannau eraill o ranbarth Gogledd Cymru.

“Rydym yn gweithio yn agos gyda’r Comisiwn Etholiadol, sydd yn darparu cyngor ac arweiniad parthed sut y gallwn gefnogi pleidleiswyr wrth iddynt bleidleisio.”

Ymgeiswyr

Mae golwg360 wedi gofyn i Michelle Brown am ymateb. Cafodd yr ymgeisydd annibynnol ei hethol yn Aelod UKIP o’r Senedd 2016. Mi gefnodd ar y blaid yn 2019 gan barhau’n AoS annibynnol.

Allwch weld rhestr gyfan o ymgeiswyr Rhanbarth Gogledd Cymru yma.