Bu farw 438 yng Nghymru yn sgil camddefnyddio alcohol yn 2020, cynnydd o 19% o’r flwyddyn flaenorol.
Ar draws Cymru a Lloegr, bu mwy o farwolaethau yn sgil alcohol nag yn unrhyw flwyddyn dros yr ugain mlynedd cynt, yn ôl ymchwil y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Bu i 7,423 o bobol farw oherwydd camddefnyddio alcohol yng Nghymru a Lloegr, sy’n gynnydd o 20% o 2019.
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn diffinio marwolaethau alcohol fel rhai sy’n cael eu hachosi’n uniongyrchol gan gamddefnyddio alcohol.
Roedd rhan fwyaf o’r marwolaethau yn 2020 yn gysylltiedig â phroblemau yfed hirdymor, a dibyniaeth.
Llynedd, cafodd tua 80% o’r marwolaethau eu hachosi gan glefyd alcoholaidd yr iau, 10% gan gyflyrau meddyliol neu ymddygiadol a gafodd eu hachosi gan alcohol, a 6% gan wenwyno anfwriadol gan alcohol.
Er bod y marwolaethau ar gyfer Cymru a Lloegr gyda’i gilydd wedi cynyddu ar ôl mis Mawrth 2020, nid yw’r un patrwm i’w weld wrth edrych ar ystadegau Cymru ar eu pennau eu hunain.
Roedd y nifer ar ei uchaf yng Nghymru yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn, gyda niferoedd yr ail a’r pedwerydd chwarter ychydig yn is, a niferoedd y trydydd chwarter yn is eto.
Er hynny, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud fod niferoedd y chwarter cyntaf yn tueddu i fod yn uwch na’r chwarteri eraill ym mhob blwyddyn
O gymharu â chyfartaledd niferoedd marwolaethau ar gyfer y bum mlynedd cynt, bu cynnydd o 12.9% yng Nghymru.
Yng Nghymru, dynion oedd 294 o’r rhai fuodd farw yn sgil alcohol yn 2020, sef 67.1%
Mae hyn yn weddol gyson gyda’r bum mlynedd flaenorol, gan mai dynion oedd 64.5% o’r rhai fu farw ar gyfartaledd dros y bum mlynedd rhwng 2015 a 2019.