Dylid sefydlu grŵp cymunedol er mwyn mynd i’r afael a’r ffrae tros feini ar draeth yn Ynys Môn.
Dyna ddatrysiad Carwyn Jones, Cynghorydd Sir tros ward Seiriol, i’r problemau diweddar â thraeth Llanddona, i’r gogledd o Fiwmares.
Yng nghanol mis Mawrth mi osodwyd meini ar y blaendraeth gan dirfeddianwyr lleol er mwyn rhwystro ymwelwyr rhag parcio eu cerbydau yno.
Mae’r mater wedi dod yn destun anghydfod rhwng y tirfeddianwyr ar un ochr, a Chyngor Cymuned Llanddona a Chyngor Sir Ynys Môn ar yr ochr arall.
Dyw pobol leol ddim yn fodlon â’r meini chwaith, a bellach mae dros 4,000 wedi llofnodi deiseb yn galw am eu gwaredu.
Pan gynhelir y cyfarfod nesaf am y mater yr wythnos nesaf, mae Carwyn Jones yn mynd i alw am greu grŵp cymunedol a fydd, mae’n gobeithio, yn rhoi diwedd ar y ffrae.
“Dw i’n mynd i ofyn, fel ein bod ni’n symud ymlaen, ein bod ni’n creu grŵp ‘Ffrindiau Traeth Llanddona’ i reoli a gwarchod yr holl ardal,” meddai.
“Ac i ddod â’r holl gwestiynau i mewn dan oruchwyliaeth grŵp newydd.
“Buasa’n sbïo ar faes parcio’r Cyngor, sbïo ar y toiledau, a sbïo ar y darn blaendraeth yma, ac yn rheoli fo i gyd mewn un pecyn – er lles gwarchod a rheoli’r ardal, er lles pawb.”
“Dw i’n dallt bod o’n sefyllfa gymhleth ofnadwy a bod yna farn gry’ ar y ddwy ochr,” atega.
“A dw i isio gwneud fy ngorau i geisio cydweithio efo pawb i ffeindio ffordd ymlaen sydd yn cyfaddawdu ar y ddwy ochr ond bod gynnon ni ffordd ymlaen er lles y gymuned, ac er lles twristiaeth, fel bod pawb yn cael mwynhau’r traeth.”
Cefndir yr anghydfod
Cafodd y meini eu gosod ar y traeth gan y tirfeddianwyr yn ymateb i naid mewn niferoedd ymwelwyr oherwydd y pandemig.
“Mae’r broblem yma wedi bod yn un hanesyddol ar draeth Llanddona,” meddai Carwyn Jones.
“Ond yn enwedig flwyddyn ddiwetha’, efo’r cyfnod clo yn dod i ben. Roedd yna camper vans ofnadwy yn dod yna ac yn aros amser hir. Yn aros am bythefnos, neu dair wythnos.
“Roedd yna fudreddi. Roedd yna faw pobol ar y traeth. Roedd rhai yn gwagio eu toiledau i’r ochrau.”
Yn ymateb i’r rhwystrau mi gynhaliwyd cyfarfod rhwng cynghorwyr â’r tirfeddianwyr ar Fawrth 22. Wnaeth y cyfarfod hwnnw ddim dwyn ffrwyth, ac mae disgwyl cyfarfod arall yr wythnos nesa’.
Dyw’r mater ddim yn ddu a gwyn: nid oes sicrwydd ynghylch pwy sydd â pherchnogaeth dros y blaendraeth – er mae’n ymddangos bod y rheolau yn ffafrio’r tirfeddianwyr.
Mae pethau hefyd yn gymhleth o ran y tirfeddianwyr a’u hamcanion. Cymysgedd ydyn nhw o bobol leol, pobol sydd wedi symud i’r ardal, a pherchnogion tai haf.
Y ddeiseb
Mae’r ddeiseb yn cynnig beirniadaeth hallt o’r tirfeddianwyr, ac yn eu cyhuddo o geisio preifateiddio’r tir.
“Dros y misoedd diwethaf, mae rhai o’r bobol sydd wedi prynu eiddo wrth ein traeth lleol wedi penderfynu gweithredu ar eu liwt eu hunain a chyfyngu defnydd y maes parcio trwy osod meini mawr, sy’n achosi difrod, ac sydd – a bod yn blaen – yn beryglus,” meddai.
“Mae’r bobol yma wedi dod lawr gyda’r bwriad o ddod â’r tir yma dan eu perchnogaeth hwythau, ac o stopio pobol eraill rhag ei fwynhau,” atega.
“Maen nhw eisiau preifateiddio’r tir trwy ddefnyddio meini mawrion i stopio unrhyw un rhag parcio ar y blaendraeth – fel sydd wedi digwydd dros flynyddoedd maith.”
Mae’r ddeiseb honni bod y meini yn rhwystro gwasanaethau brys – ambiwlansys a gwylwyr y glannau – rhag medru cael at y traeth.
Ac mae’n galw am lu o gamau ochr yn ochr â gwaredu’r meini.
Dylai’r Cyngor gyflogi warden cŵn/glanhawr a fydd yn gweithio ar y traeth saith diwrnod yr wythnos, a dylid rhoi biniau newydd ar hyd y blaendraeth, yn ôl y ddeiseb.
Ymateb y cyngor sir
“Rydym yn ymwybodol o’r pryderon parhaus mewn perthynas â pharcio, yn enwedig gan nifer fawr o gerbydau gwersylla yn nhraeth Llanddona,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn
“Nid yw’r tir lle bydd pobl yn parcio o fewn perchnogaeth y Cyngor ac felly does dim modd i’r Cyngor gymryd unrhyw gamau gorfodi na gweithredu unrhyw fesurau er mwyn atal na rheoli nac annog defnydd. Mae’r maes parcio cyfagos wedi parhau i fod ar agor ac mae ar gael i’w ddefnyddio.”