Mae 51% o Gymry yn credu fod y pandemig wedi cael ei gamreoli, yn ôl astudiaeth newydd.

Dywedodd 43% o Gymry eu bod nhw’n ymddiried llai yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig ers dechrau’r pandemig, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Bryste a Choleg King’s, Llundain.

Yn ogystal, dangosodd yr astudiaeth nad oedd 60% o’r bobol a gafodd eu holi yng Nghymru yn ymddiried yn y Prif Weinidog Boris Johnson i ymateb i faterion yn ymwneud â’r coronafeirws.

Fodd bynnag, roedd mwyafrif llethol o bobol ar draws y Deyrnas Unedig yn credu fod y rhaglen frechu wedi’i chyflawni’n dda, gyda dim ond 8% o Gymry yn credu fod Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â’r mater yn wael.

Sefyllfa’r Alban

Ledled y Deyrnas Unedig, mae’r diffyg ymddiriedaeth yn Boris Johnson ar ei uchaf yn yr Alban, yn ôl yr ymchwil.

Dangosodd yr astudiaeth fod 55% o’r cyhoedd yn yr Alban yn dweud fod lefel eu ffydd yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gostwng, gyda’r un ganran yn credu fod y pandemig wedi cael ei gamreoli.

Dywedodd 72% o’r rhai a gafodd eu holi yn yr Alban nad ydyn nhw’n ymddiried yn Boris Johnson i ymateb i faterion yn ymwneud â’r coronfeirws.

Nid yw 51% o bobol Gogledd Iwerddon yn ymddiried yn Boris Johnson i fynd i’r afael â’r pandemig, a dywedodd ychydig o dan hanner y cyhoedd yn Lloegr (47%) nad oes ganddyn nhw ffydd ynddo.

Wrth edrych ar ffydd pobol yr Alban yn Nicola Sturgeon, mae’n ddarlun cwbl wahanol.

Dywedodd 66% o’r rhai a gafodd eu holi eu bod nhw’n ymddiried ynddi i fynd i’r afael â’r pandemig, ond mae’r ganran sy’n ymddiried ynddi’n “fawr iawn” wedi gostwng o 33% i 27% ers yr arolwg diwethaf ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2020.

Ychydig dros chwarter o Albanwyr sy’n credu fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud y peth iawn, o gymharu â 39% o Saeson.

“Cysylltiedig â hunaniaeth wleidyddol”

“Mae’r Alban yn sefyll allan fel cenedl fwyaf negyddol y Deyrnas Unedig o ran eu barn ar berfformiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod y pandemig, ac yn arbennig y ffordd mae hyn wedi effeithio lefelau eu ffydd yn San Steffan,” meddai’r Athro Bobby Duffy, o Goleg King’s, Llundain.

“Mae cael dros hanner yr Albanwyr yn dweud eu bod nhw’n ymddiried llai yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig oherwydd eu profiad o’r pandemig yn gyd-destun hanfodol ar gyfer etholiad Senedd yr Alban, ac i’r heriau hirdymor eraill sy’n wynebu’r Deyrnas Unedig.”

“Mae’r gwahaniaeth ar draws y cenhedloedd wrth roi eu barn ar y ffordd mae’r llywodraethau datganoledig, a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, wedi trin y pandemig yn ddiddorol i’w weld,” meddai Dr Siobhan McAndrew, o Brifysgol Bryste.

“Mae barn pobol ar berfformiad yn ymwneud â’r pandemig yn ymddangos i fod yn gysylltiedig â hunaniaeth wleidyddol a ffydd, cymaint â gwerthfawrogi llwyddiannau a methiannau penodol.”

“Gweithio’n ddiflino”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod “Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gweithio’n ddiflino i gefnogi pob rhan o’r wlad yn ystod y pandemig, o’r rhaglen ffyrlo i gael gafael ar frechlynnau, a chefnogi staff y fyddin”.

“Mae dros 50 miliwn o bobol ar draws y Deyrnas Unedig wedi derbyn dos cyntaf o’r brechlyn nawr, ac mae’r rhaglen ffyrlo yn parhau i gefnogi bron i hanner miliwn o swyddi yn yr Alban.

“Mae Trysorlys y Deyrnas Unedig wedi dyrannu mwy na £14 biliwn mewn cyllid ychwanegol i Lywodraeth yr Alban er mwyn amddiffyn bywydau a swyddi, mae hyn ar ben grant, ac yn ychwanegol i gefnogaeth uniongyrchol helaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r Alban.”