Yn yr Unol Daleithiau, mae llywodraeth Joe Biden yn cefnogi hepgor hawlfraint cwmnïau i wneud fersiwn eu hunain o frechlynnau Covid mewn ymdrech i ddod â’r pandemig i ben yn gynt.

Fe wnaeth Cynrychiolydd Masnach yr Unol Daleithiau gyhoeddi agwedd llywodraeth y wlad ddydd Mercher (Mai 5), wrth i Sefydliad Masnach y Byd (WTO) drafod llacio rheolau masnachu byd-eang er mwyn caniatáu i fwy o wledydd greu brechlynnau.

“Mae’r Llywodraeth hon yn credu’n gryf mewn hawlfreintiau cwmnïau, ond er mwyn dod â’r pandemig i ben, rydyn ni’n cefnogi hepgor yr amddiffynfeydd hynny ar gyfer brechlynnau Covid-19,” meddai Katherine Tai.

Dywedodd y byddai’n cymryd amser er mwyn dod i’r “cytundeb” byd-eang sy’n ofynnol ar gyfer hepgor hawlfreintiau o dan reolau’r WTO, a dywedodd swyddogion yn yr Unol Daleithiau na fyddai’n cael unrhyw effaith ar gyflenwad brechlynnau Covid-19 yn syth.

“Dyma argyfwng iechyd byd-eang, ac mae amgylchiadau rhyfeddol pandemig Covid-19 yn galw am fesurau rhyfeddol,” ychwanegodd Katherine Tai.

“Nod y Llywodraeth yw cael cynifer â phosib o frechlynnau sâff ac effeithiol i bobol mor sydyn â phosib.”

Trafodaeth “fwy adeiladol”

Daeth ei chyhoeddiad oriau ar ôl i Gyfarwyddwr Cyffredinol y WTO gyfarfod gyda llysgenhadon o nifer o wledydd sydd wedi bod yn ystyried y mater, ond yn cytuno bod angen mynediad mwy eang tuag at driniaethau Covid-19.

Roedd cyngor cyffredinol y WTO yn trafod hepgor hawlfreintiau cwmnïau dros dro, rhywbeth a gafodd ei awgrymu gan India a De Affrica ym mis Hydref.

Dywedodd llefarydd ar ran y WTO fod panel ar hawlfreintiau cwmnïau wedi’i sefydlu er mwyn ystyried y mater mewn cyfarfod yn hwyrach mis Mai, cyn cynnal cyfarfod ffurfiol ar Fehefin 8-9.

“Byddwn i’n dweud fod y drafodaeth yn dipyn mwy adeiladol, ymarferol,” meddai Keith Rockwell.

“Roedd yn llai emosiynol, a llai o bwyntio bys nag y bu yn y gorffennol.

“Dw i’n meddwl fod teimlad fod pawb-yn-hyn-gyda’i-gilydd wedi’i fynegi mewn ffordd nad oeddwn i wedi’i glywed cyn hynny.”

Mae awduron y cynnig, sydd wedi wynebu gwrthwynebiad gan wledydd sydd a diwydiannau fferyllol a biotech dylanwadol, wedi bod yn adolygu’r cynlluniau yn y gobaith o’i wneud e’n fwy derbyniol.

“Dyletswydd”

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y WTO ei fod yn “ddyletswydd arnom i symud yn sydyn a thrafod y cynnig sydd wedi’i adolygu, a dechrau ymgymryd â thrafodaethau ar y testun”.

“Unwaith y byddwn ni’n eistedd lawr gyda’r testun o’n blaen, dw i’n hollol sicr y byddwn ni’n dod o hyd i ffordd ymarferol o weithio,” meddai Ngozi Okonjo-Iweala.

Y nod fyddai atal y rheolau am sawl blwyddyn, a fyddai’n rhoi digon o amser i ddod dros y pandemig.

Mae’r mater wedi dod yn un o frys yn sgil y cynnydd mewn achosion yn India, ac yn ôl cefnogwyr mae hepgor materion o’r fath yn rhan o wneuthuriad y WTO, ac maen nhw’n mynnu nad oes amser gwell i’w ddefnyddio nag yn ystod pandemig sydd wedi lladd 3.2 miliwn o bobol, wedi heintio 437 miliwn, a dinistrio economïau.

Erbyn, hyn mae dros 100 o wledydd wedi cefnogi’r cynnig, ac fe wnaeth grŵp o 110 aelodau o Gyngres America anfon llythyr at Joe Biden fis diwethaf yn galw arno i gefnogi hepgor yr hawlfreintiau.

Mae gwrthwynebwyr yn dweud na fyddai hyn yn ateb pob problem, ac maen nhw’n mynnu fod cynhyrchu brechlynnau coronafeirws yn gymhleth, ac na ellir gwneud hynny’n gynt drwy hepgor hawlfraint.