Mae dwy o longau’r Llynges ar batrôl o amgylch ynys Jersey yn dilyn pryderon am flocâd posib o’r ynys yn dilyn ffrae ôl-Brexit gyda Ffrainc am hawliau pysgota.

Mae’r HMS Severn a HMS Tamar wedi cael eu hanfon gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i “fonitro’r sefyllfa” yn Ynysoedd y Sianel yn dilyn protest gan bysgotwyr Ffrainc ym mhorthladd St Helier oherwydd diffyg mynediad.

Fe rybuddiodd gweinidog morwrol Ffrainc, Annick Girardin, ddydd Mawrth bod y wlad yn barod i gymryd camau, gan gyhuddo Jersey o lusgo ei thraed dros roi trwyddedau newydd i gychod Ffrainc.

Roedd y Prif Weiniodog Boris Jones wedi trafod gyda phrif weinidog Jersey, y Seneddwr John Le Fondre, a’r gweinidog materion allanol, Ian Gorst, ddydd Mercher, gan “bwysleisio ei gefnogaeth” i’r ynys.

Roedd dwsinau o gychod Ffrainc wedi cyrraedd yr harbwr fore dydd Iau, gyda rhai, yn ôl adroddiadau, yn tanio ffagliadau yn ystod y brotest, sydd wedi bod yn heddychlon hyd yn hyn.

Mae Paris wedi rhybuddio y gallai dorri’r cyflenwad trydan i’r ynys, sy’n derbyn 95% o’i thrydan o Ffrainc drwy geblau dan y môr, i ddial mewn ymateb i’r anghydfod.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn bod anfon y llongau yn “fesur rhagofal yn unig sydd wedi cael ei gytuno gyda Llywodraeth Jersey.”

Fe ddechreuodd y ffrae ar ôl i’r ynys gyflwyno gofynion newydd, o dan amodau’r cytundeb masnach rhwng y DU a’r Undeb Ewropeaidd, fel bod cychod yn gorfod cyflwyno tystiolaeth o’u gweithredoedd pysgota yn y gorffennol er mwyn cael trwydded newydd i barhau i bysgota yn nyfroedd Jersey.