Mae gorsafoedd pleidleisio wedi agor yn yr Alban ar gyfer ethol Llywodraeth nesaf y wlad, er gallai gymryd mwy na 48 awr cyn i’r holl ganlyniadau gael eu cyfri.
Fel yng Nghymru, fe wnaeth y gorsafoedd pleidleisio agor am 7am, a bydden nhw’n cau am 10pm.
Gallai’r etholiad fod yn hanfodol er mwyn penderfynu dyfodol yr Alban o fewn y Deyrnas Unedig, ac mae sicrwydd y bydd Nicola Sturgeon, arweinydd yr SNP, yn parhau fel Prif Weinidog yr Alban.
Ond, mae hi a’i phlaid yn ceisio ennill mwyafrif yn Holyrood, yn y gobaith y byddai hynny’n eu helpu nhw i sicrhau ail refferendwm annibyniaeth.
Trwy gydol yr ymgyrch, mae Nicola Sturgeon wedi pwysleisio na fyddai refferendwm yn cael ei gynnal nes bod yr argyfwng iechyd wedi pasio.
Mae ei gwrthwynebwyr mewn pleidiau sydd o blaid yr Undeb yn mynnu y byddai hynny’n tarfu ar adferiad yr Alban wedi’r pandemig, gan ddadlau mai ar adferiad y dylai Senedd nesaf yr Alban ganolbwyntio.
Mae’n debyg mai pleidlais y rhestr ranbarthol fydd yn hanfodol ar gyfer penderfynu pa blaid fydd yn dod yn ail yn yr etholiad.
Bydd Llafur yr Alban yn gobeithio gwneud peth cynnydd, a gwella sefyllfa’r blaid ar ôl dioddef cwymp mewn cefnogaeth yn y blynyddoedd diwethaf.
Yn y cyfamser, bydd Ceidwadwyr yr Alban yn gobeithio parhau fel yr ail blaid fwyaf yn Holyrood.
Mae polau piniwn yr Alban yn awgrymu y gallai’r Blaid Werdd yno gael eu canlyniad gorau hyd yn hyn, ac mae Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban hefyd yn credu ei bod hi’n bosib iddyn nhw ennill mwy o seddi.
Yn sgil rheolau diogelwch Covid-19, ni fydd y cyfri’n digwydd dros nos, ond yn hytrach bydden nhw’n dechrau am 9 bore fory (Mai 7), a bydd canlyniadau rhai o’r etholaethau yn cael eu cyhoeddi fory.
Bydd gweddill canlyniadau’r etholaethau, a chanlyniadau’r wyth rhanbarth, yn cael eu cyhoeddi ddydd Sadwrn.