Mae’r pleidleisio wedi bod yn mynd rhagddo ar gyfer ethol Llywodraeth nesaf Cymru, gyda dyfodol perthynas Cymru â’r Deyrnas Unedig, a’r coronfeirws ymysg y pynciau trafod cyn yr etholiad.

Er bod gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm, ni fydd y cyfrif na chyhoeddi’r canlyniadau’n digwydd tan fory (Mai 7), yn sgil rheolau i sicrhau fod pawb sy’n cyfri a gwirio pleidleisiau yn ddiogel.

Materion yn ymwneud â’r pandemig sydd wedi bod amlycaf mewn trafodaethau a dadleuon yn ystod y cyfnod ymgyrchu.

Ymbellhau cymdeithasol

Wrth bleidleisio, mae mesurau ymbellhau cymdeithasol mewn lle, ac mae’n rhaid i bobol gadw at y rheol dwy fetr mewn gorsafoedd pleidleisio, gwisgo masg, a chadw at systemau unffordd.

Mae sgriniau diogelwch clir wedi’u gosod mewn gorsafoedd pleidleisio hefyd, ac mae pleidleiswyr yn cael eu hannog i fynd â beiro neu bensel gyda nhw er mwyn llenwi’r papur pleidleisio. Ond bydd rhai ar gael yn y gorsafoedd hefyd.

Mae gan bobol ddwy bleidlais ar gyfer ethol cynrychiolwyr i’r Senedd, un bleidlais ar gyfer yr etholaeth, ac un ar y rhestr ranbarthol.

Ar gyfer pleidlais yr etholaeth, mae gofyn i bobol bleidleisio dros y person y maen nhw am weld yn eu cynrychioli nhw, a’u hardal leol, yn y Senedd. Bydd 40 o’r 60 Aelod Seneddol yn cael eu hethol drwy bleidlais yr etholaethau.

Ar y rhestr ranbarthol, bydd pobol yn pleidleisio dros un blaid er mwyn i’w hymgeiswyr nhw gynrychioli’r rhanbarth, gydag 20 o aelodau yn cynrychioli’r pum rhanbarth.

Yn ogystal, bydd pobol dros 18 oed yn pleidleisio ar gyfer ethol Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd heddiw.

Pobl ifanc 16-17 oed yn cael pleidleisio am y tro cyntaf

Dyma’r etholiad cyntaf ar gyfer y Senedd ers i’r enw newid o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a dyma’r tro cyntaf i bobol 16 ac 17 oed gael pleidleisio.

Un a gafodd bleidleisio am y tro cyntaf yn sgil y newid yw Dafydd Hedd, sy’n 17 oed, ac o Gerlan, Bethesda.

“Fatha rhywun sydd wastad wedi yn hoff iawn o’r broses, a wastad wedi nagio mam ‘ei, ga i ddod mewn?’ Roedd o’n deimlad rili cŵl,” meddai Dafydd wrth golwg360 am y profiad o bleidleisio am y tro cyntaf

“Ar y cyfan, roedd o’n brofiad rili da, a syml.

“Dw i wirioneddol methu disgwyl am y canlyniadau, a bod yn rhan ohono.”

Blog byw golwg360

Bydd gan golwg360 flog byw yn dechrau tua 1pm yfory gyda’r canlyniadau a’r ymateb, yng nghwmni Prif Olygydd Golwg Garmon Ceiro, Gohebydd Seneddol Golwg Iolo Jones, colofnydd Golwg Jason Morgan, ynghyd â chyfraniadau gan Huw Prys Jones, Dylan Iorwerth, a’r academyddion Dr Dafydd Trystan (Coleg Cymraeg Cenedlaethol) a Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a llawer mwy.