Mae Savanta ComRes wedi dweud bod ei phôl bwriad pleidleisio cyn etholiad Senedd Cymru ddydd Iau yn dangos mai Llafur Cymru sy’n debygol o fod y blaid fwyaf – ond y gallai fod yn brin o fwyafrif.

Etholaethau

Yn ôl y bleidlais mae Llafur yn parhau ar 36% yn y bleidlais etholaethol o’i gymharu â phleidlais ComRes yr wythnos diwethaf, gyda’r Ceidwadwyr Cymreig i fyny un pwynt i 28%, a Phlaid Cymru i lawr un pwynt i 18%.

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar 6%, Mae Diddymu Plaid Cynulliad Cymru a Reform UK ar 3%, ac mae pleidiau ac aelodau annibynnol eraill yn dod i gyfanswm o 6%.

Rhanbarthau

Yn y bleidlais ar y rhestr ranbarthol, dywedodd y pôl fod Llafur ar 32% (+1); Torïaid 25% (+1); Plaid 19% (-2); Diddymu 6% (-2); Democratiaid Rhyddfrydol 5% (-); Gwyrdd 5% (+2); Diwygio 3%; Ukip 1% (-1); 5% arall (+2).

Gallwch weld sut mae map golwg360 yn edrych ar sail y pôl hwn isod.

Arolwg barn Savanta ComRes Mai 2021

Arolwg barn Savanta ComRes Mai 2021

Map yn dangos canlyniad posib yn etholiadau’r Senedd.

Annibyniaeth

Mae pôl SavantaComres hefyd yn gofyn am annibynaeth – a’r canlyniadau y tro hwn, ac eithrio ‘ddim wedi penderfynu’, oedd 65% yn erbyn a 35% o blaid.