Mae Eifion Williams, a oedd yn ymgeisydd Llafur yn etholiadau’r Senedd yn 2011, wedi galw ar gefnogwyr y blaid i bleidleisio dros Blaid Cymru, a “chael gwared ar y Torïaid”.
Ar hyn o bryd, y Ceidwadwyr sy’n cynrychioli Aberconwy yn y Senedd gyda mwyafrif o 754 o bleidleisiau, ond mae Plaid Cymru a’r Blaid Lafur wedi ennill y sedd yn y gorffennol.
Gallai’r frwydr yn Aberconwy fod yn ras driphlyg rhwng y Ceidwadwyr, Plaid Cymru, a’r Blaid Lafur, ac mae Eifion Williams wedi galw ar gefnogwyr Llafur i “fenthyg eu pleidlais” i Blaid Cymru fory.
“Byddwn i’n galw ar gefnogwyr Llafur yn Aberconwy i fenthyg eu pleidlais i Blaid Cymru y tro hwn,” meddai Eifion Williams, a oedd yn arfer bod yn ymgyrchydd Llafur.
Erbyn hyn, mae’r cyn-ymgeisydd Llafur wedi ymuno â Phlaid Cymru, a dywedodd fod “pobol yn yr etholaeth wedi cael eu gadael lawr ers deg mlynedd gan eu Haelod Seneddol Torïaidd, a’r cyngor sy’n cael ei redeg gan Dorïaid”.
“Yr unig ffordd i gael gwared ar y Torïaid o Aberconwy yw pleidleisio dros Aaron Wynne ddydd Iau. Wrth bleidleisio dros Aaron yr unig beth sydd gennych chi i’w golli yw Aelod Seneddol Ceidwadol gwael.”
Newyddion “amherthnasol i’r ymgyrch”
Wrth ymateb i sylwadau Eifion Williams, fe wnaeth Janet Finch-Saunders, ddweud “nad yw’r newyddion hwn yn berthnasol i’r ymgyrch yn Aberconwy”.
“Dw i’n falch fy mod wedi cynrychioli ein hetholaeth wych ers 2011, pan wnes i lwyddo i herio Eifion yn yr etholiad, drwy addo cyflwyno newid dynamig a chysylltu’n rheolaidd ag etholwyr am eu pryderon,” meddai Janet Finch-Saunders.
“Bydd trigolion lleol yn ymwybodol o fy record yn gwasanaethu a chyflawni. Dyma wleidydd Llafur methedig, sy’n digwydd bod yn byw yn Wrecsam, yn chwilio am sylw drwy adael [ei blaid].
“Wrth amlygu ein neges gadarnhaol am newid ac adferiad, gan aros yn driw i’m gwreiddiau Ceidwadol Cymreig, dw i wedi fy llethu â’r ymateb cadarnhaol tuag at ein haddewidion sydd wedi bod ar y stepen drws.
“Dw i’n parhau i fod yn glir mai ein blaenoriaeth gyntaf fydd adfer ein cymuned ar ôl yr argyfwng iechyd cyhoeddus ofnadwy hwn.
“Mae hyn yn wahanol iawn i rai o’r ymgeiswyr eraill yn y ras, a fyddai’n well ganddyn nhw achosi llanast economaidd a chyfansoddiadol gyda’u galwadau diofal a rhwygol am refferendwm annibyniaeth costus.”
“Ras eithriadol o dynn”
Yn y cyfamser, mae’r Blaid Lafur yn credu bod ganddyn nhw siawns o gipio’r sedd.
Daeth y blaid yn ail i’r Ceidwadwyr yn Etholiad San Steffan yn 2019, ac yn drydedd agos yn ystod etholiad diwethaf y Senedd yn 2016 pan oedd 1,607 o bleidleisiau rhyngddyn nhw a’r Ceidwadwyr.
Dywedodd Aaron Wynne, ymgeisydd Plaid Cymru yn yr etholaeth, fod hon yn “ras eithriadol o dynn, ac rydyn ni wir angen i rywbeth newid yn Aberconwy.
“Dw i’n ddiolchgar am gefnogaeth Eifion, a chefnogaeth cymaint o bleidleiswyr Llafur ar draws Aberconwy.”
- Cysylltwyd â Llafur Cymru a Cheidwadwyr Cymru am ymateb.
Ymgeiswyr Aberconwy yn llawn
Rachel Bagshaw, Reform UK
Janet Finch-Saunders, Plaid Geidwadol Cymru
Rhys David Jones, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Dawn McGuinness, Llafur Cymru
Sharon Smith, Dim Mwy o Gyfyngiadau Symud
Aaron Wynne, Plaid Cymru