Mae gweithwyr mewn Canolfannau Gwaith yn bygwth mynd ar streic yn sgil ffrae am ddiogelwch Covid-19.
Mae gofyn i aelodau Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) ddweud a fydden nhw’n ystyried gweithredu mewn pleidlais ymgynghorol.
Byddai’n rhaid cynnal pleidlais arall cyn i’r streic ddigwydd.
Dywedodd yr undeb eu bod nhw’n gwrthwynebu penderfyniad Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y Deyrnas Unedig (y DWP) i “fynnu” bod mwy o weithwyr yn dychwelyd i’w gweithleoedd, ac i ddechrau ailagor canolfannau yn llawn nawr.
Ychwanegodd swyddogion PCS nad ydyn nhw’n credu ei bod hi’n bosib gwneud y gwaith yn sâff yn sgil y coronafeirws, nad yw’r asesiadau risg gofynnol wedi’u cwblhau, ac nad yw mesurau diogelwch wedi cael eu cyflwyno.
Gwrthwynebu ailagor “diangen a diofal”
Dangosodd arolwg diweddar mai dim ond 1 ym mhob 5 o weithwyr sy’n teimlo’n sâff yn dychwelyd i weithio mewn Canolfannau Gwaith.
Yn ôl PCS, dywedodd 58% eu bod nhw’n teimlo’n anniogel, a dywedodd un aelod fod eu swyddfa yn fach “gyda chynnydd mewn gweithwyr yn sgil y recriwtio a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod clo”.
“Dw i ddim yn gweld sut y gallai’r swyddfa fod yn sâff i weithwyr yn ogystal â chwsmeriaid, a pharhau i gadw at reoliadau Covid ac ymbellhau cymdeithasol,” meddai’r aelod, nad oedd am gael ei enwi.
“Rydyn ni’n gwrthwynebu ailagor canolfannau gwaith yn llawn, mewn modd diangen a diofal, pan mae nifer o’n gweithwyr yn cynnig Credyd Cynhwysol, a gwasanaethau eraill i hawlwyr, o’u cartrefi,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol PCS, Mark Serwotka.
“Mae rhai o’r hawlwyr yn perthyn i rannau mwyaf agored i niwed cymdeithas, ac mae ein haelodau wedi ymroi i’w helpu nhw i gael mynediad at beth bynnag maen nhw ei angen.
“Fodd bynnag, mae gan weithwyr Canolfannau Gwaith yr hawl i wneud eu swydd yn ddiogel.
“Rhaid i’r DWP a gweinidogion ailfeddwl yr agwedd hon er mwyn osgoi streic bosib yn y dyfodol.”
“Gweithio’n agos gyda’r undebau”
“Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda’r undebau drwy gydol y pandemig, ac rydyn ni’n parhau i wneud hynny er mwyn sicrhau fod ein safleoedd yn ddiogel, a bod iechyd a diogelwch ein cydweithwyr yn parhau i fod yn ganolog i’n hymateb i gynnig cymorth allweddol i’r rhai sydd ein hangen ni mewn canolfannau gwaith,” meddai llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau.
“Felly, mae’n siomedig clywed fod PCS wedi penderfynu gweithredu fel hyn wrth i’r wlad ailagor, ac wrth i’n canolfannau gwaith ddychwelyd at eu horiau agor llawn.
“Rydyn ni’n parhau’n gwbl ymrwymedig i gynnal ein holl wasanaethau i gwsmeriaid, a sicrhau bod ein safleoedd yn ddiogel i weithwyr a chwsmeriaid rhag Covid, yn unol â chanllawiau diweddaraf iechyd cyhoeddus a’r Llywodraeth.”
Streic y DVLA
Ddydd Mawrth (Mai 4), dechreuodd gweithwyr y DVLA yn Abertawe streic bedwar diwrnod yn dilyn ffrae am yr un mater.
Mae’r undeb yn galw am ostyngiad yn nifer y staff sydd angen mynd i mewn i’r swyddfa i weithio ar ôl i bryderon gael eu codi yn dilyn nifer o achosion coronafeirws yn y gweithle.
Dywedodd yr undeb, er gwaethaf trafodaethau helaeth i ddatrys yr anghydfod, fod y DVLA yn mynnu bod mwy na 2,000 o bobl yn mynd i’r swyddfa yn Abertawe bob dydd.