Mae’r heddlu wedi atafaelu mwy na 700 o blanhigion canabis o dŷ yn ardal Glanyrafon yng Nghaerdydd.

Roedd nifer o gerbydau a swyddogion Heddlu De Cymru ar Brook Streer yn cael gwared ar y planhigion fore dydd Mawrth (Mai 4).

Dywedodd yr heddlu bod y tŷ bellach wedi’i wneud yn ddiogel a bod swyddogion yn parhau â’u hymholiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: “Cafodd ffatri ganabis fawr ei darganfod mewn eiddo ar Brook Street.

“Mae’r eiddo wedi’i wneud yn ddiogel ac mae mwy na 700 o blanhigion, ac offer, wedi’u cymryd.

“Mae ymholiadau’n parhau i ddod o hyd i’r rhai sy’n ymwneud â chynhyrchu’r cyffur.”