Mae wythnos Etholiadau Senedd Cymru 2021 wedi cyrraedd, ac o hyd mae ’na ansicrwydd mawr am y canlyniad. Gallai’r map fod yn sylweddol fwy amryliw ddydd Gwener, ond mae ’na bosibiliad na fydd newidiadau o gwbl. O, Gymru!

Mae rhai seddi rydyn ni’n edrych arnynt bob etholiad Senedd, ond dwi wedi dewis tair i gadw llygad allan amdanynt am resymau gwahanol; Aberconwy, Brycheiniog a Maesyfed, a Chaerffili. Dydi’r rhain heb gael yr un sylw â nifer o rai eraill, ond efallai y dylent…

Aberconwy

O feddwl mai dim ond 754 o bleidleisiau oedd ynddi’r tro diwethaf, a llai nag 8% rhwng y tair plaid uchaf, mae’r sylw i Aberconwy wedi bod yn ddiffygiol. I fi, mae hynny ynddo’i hun yn dweud llawer – does neb yn disgwyl newid.

Mae tair carfan wleidyddol yma: ymddeolwyr, dosbarth gweithiol arfordir y gogledd, a chefn gwlad Dyffryn Conwy.

Mae’r bobl hŷn sy’n ymddeol i lefydd fel Llandudno wastad wedi bod yn gefnogol i’r Ceidwadwyr, ac er bod de’r etholaeth yn gefnogol i Blaid Cymru, mae’n bleidlais sydd yn y bôn yn un amaethyddol a cheidwadol.

Gellid disgwyl, fel yn Lloegr, fod y Torïaid yn ymnerthu ymhlith dosbarth gweithiol llefydd fel Cyffordd Llandudno, sydd yn tueddu i uniaethu â Phrydeindod yn hytrach na Chymreictod.

Dewis difyr mewn etholaeth hŷn a thuedd Geidwadol sydd i Blaid Cymru ar ffurf Aaron Wyn, gŵr ifanc asgell chwith, sydd efallai’n wrthwyneb llwyr i gyn-ddeiliad y sedd i’r Blaid, Gareth Jones – cyn-brifathro a oedd yn gandryll â phenderfyniad ei blaid i glymbleidiol â Llafur nôl yn 2007.

O ystyried nodweddion yr etholaeth a thueddiadau gwleidyddol-gymdeithasol diweddar, mae’n ddewis mentrus.

Go brin y bydd Janet Finch-Saunders yn rhy bryderus, er nad yw ei mwyafrif yn anorchfygol.

Er, gallai ymgeiswyr Reform UK ac un annibynnol (dan faner No More Lockdowns) yn hawdd ddwyn pleidleisiau oddi arni hi’n fwy na’r un arall a gwneud pethau’n anghysurus o dynn, yn enwedig o gofio nad ydi hi erioed wedi ennill cynifer o bleidleisiau ag y gwnaeth ei rhagflaenydd.

Enillodd Mr Jones bron 8,000 o bleidleisiau yma yn 2007.

Aros fydd rhaid i weld sut y gwnaiff Llafur yma. Yn drydydd cryf tro diwethaf, mae’n bosib y gall cyfradd o’u pleidlais droi at Blaid Cymru i atal y Ceidwadwyr, a hefyd gyfradd at y Ceidwadwyr yn sgîl y dirwedd etholiadol sydd ohoni.

Cawn weld a ydi’r dirwedd honno mewn seddi fel hon am arwain at oruchafiaeth Geidwadol hirhoedlog, a faint o fodd sydd i Blaid Cymru a Llafur gystadlu mewn llefydd tebyg yn y byrdymor.

Brycheiniog a Maesyfed

Dyma sedd Kirsty Williams, a phetai hi’n sefyll eleni byddai’n anodd ei gweld yn ei cholli. Roedd ei mwyafrif yn 2016 yn fwy na’r bleidlais Geidwadol (15,898 i 7,728).

Cafodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, lai o bleidleisiau na hi yn etholiad 2019, gyda’r Ceidwadwyr yn agos at ennill teirgwaith eu cyfanswm yn y Senedd.

Yn wir, roedd nifer y pleidleisiau i’r Ceidwadwyr y tro hwnnw’n uwch nag i unrhyw un blaid arall yn yr etholaeth ers 1966.

Ond ni fydd pleidlais bersonol y tro hwn, sydd fwy na thebyg yn sylweddol.

Dyma unig etholaeth y Rhyddfrydwyr yng Nghymru bellach, a byddai ei cholli’n ergyd wirioneddol drwm i’r blaid. Gwir, cawn nhw fwy na thebyg eu digolledu ar y rhestr, ond ni fyddai hynny’n gwneud yn iawn am yr ergyd seicolegol.

Y gwir plaen ydi hyn: mae dyfodol y Rhyddfrydwyr yng Nghymru eisoes yn y fantol, ond heb unrhyw un o 80 o etholaethau’r Senedd neu San Steffan, mae’n wirioneddol anodd gwybod i le allan nhw fynd.

Arwyddocâd Brycheiniog a Maesyfed yn 2021 ydi ei bod yn fater o fyw neu farw i’r blaid Gymreig.

Caerffili

Mynd a dod mae pleidlais Plaid Cymru wedi gwneud yn y Cymoedd, o’r Rhondda heddiw i Ferthyr Tudful ‘slawer dydd.

Fodd bynnag, byth oddi ar is-etholiad 1968 pan ddaeth Phil Williams o fewn trwch blewyn i’w chipio, mae presenoldeb a gweithgarwch y cenedlaetholwyr wedi tueddu i fod yn fwy cyson yma o gymharu â gweddill y Cymoedd.

Ond dydi Plaid Cymru erioed wedi llwyddo torri drwodd yma yn y Senedd. Eleni, mae dau Aelod o’r Senedd, Hefin David i Lafur a Delyth Jewell i Blaid Cymru’n mynd benben â’i gilydd.

Mae stori’r etholaeth wedi mynd dan y radar eleni, fel y mae’n gwneud bob etholiad.

Mae’n hysbys bod David ei hun yn hyderus o gadw’r sedd, ond hefyd fod cecru mewnol chwerw’n y blaid leol wedi arwain at ddiffyg ymgyrchu a thaflennu llawr gwlad, gyda storm ffrae Prif Weithredwr Cyngor Caerffili hefyd wedi taro ar adeg wael.

Fel rheol, twyllodrus ydi edrych ar bosteri ac arwyddion mewn unrhyw ardal i ddarogan y bleidlais.

Ond, mae yma eithriad. Danfonodd Llafur boster at bob tŷ yn yr etholaeth y tro hwn, felly byddai’n hawdd eu gosod fyny. Er hynny, nifer wirioneddol bitw ohonynt sydd i’w gweld yn ffenestri Caerffili, Bargod a Gelligaer. Mae hynny’n rhyfeddol o feddwl fod gan bawb un.

Ar y llaw arall, mae Plaid Cymru’n lleol wedi bod wrthi’n lladd nadroedd yma, gydag ymgyrch ddi-baid o daflennu a llythyru, ac mae gan eu hymgeisydd broffil lleol sydd o leiaf yn cystadlu ag un David.

Mae un ffactor arall yma hefyd: roedd pleidlais UKIP yn 2016 yn sylweddol, bron yn 6,000 o bleidleisiau. Dydyn ni ddim yn gwybod at bwy maen nhw wedi mynd ers hynny. Ar lefel San Steffan mae’n ymddangos taw’r Ceidwadwyr yw’r buddiolwyr, hwythau’n ail cadarn iawn yma yn 2017 a 2019.

Petaen nhw’n aros â’r Ceidwadwyr y tro hwn, mae posibiliad y bydd Caerffili’n ras deirffordd annisgwyl iawn.

Mae’n bwysig i Blaid Cymru dorri drwodd mewn seddi fel Caerffili os ydyn nhw isio grym bargeinio o ddifrif yn y Senedd nesaf.

Ond os gall Llafur ddal ymlaen unwaith yn rhagor – mewn sedd lle mae materion lleol yn hysbys a’r blaid eu hunain yn apathetig, mae’n anodd gwybod beth yn union all y Blaid ei wneud i ddadorseddu eu hen wrthwynebwyr yng nghochni dwfn Cymoedd De Cymru.