“Mae ffordd bell i fynd” yn y frwydr yn erbyn hiliaeth ar y cyfryngau cymdeithasol yn y byd pêl-droed, yn ôl Steve Cooper, rheolwr Abertawe.

Daw ei sylwadau ar ôl i bedwerydd chwaraewr, Morgan Whittaker, gael ei sarhau mewn negeseuon ar Instagram – mae hyn yn dilyn digwyddiadau eraill wedi’u hanelu at Ben Cabango, Jamal Lowe a Yan Dhanda.

Mae pob un o’r achosion yn ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol, a daw’r un diweddaraf yn fuan ar ôl i’r byd pêl-droed ddilyn esiampl yr Elyrch drwy gynnal boicot o’r cyfryngau cymdeithasol am benwythnos cyfan.

“Mae’n rhy gyffredin,” meddai Steve Cooper am hiliaeth ar y cyfryngau cymdeithasol. “Dyma’n pedwerydd un ni.

“Ddylai e ddim [digwydd] unwaith hyd yn oed.

“Mae’n ein hatgoffa go iawn fod yna broblem fawr o’r math yma o hyd, yn enwedig yn y byd pêl-droed.

“Rhaid i ni barhau i chwarae ein rhan, er bod hynny’n dameidiog o ran sut ydyn ni’n ceisio’i ddileu e o bêl-droed a bywyd os gallwn ni.

“Ond mae ffordd bell i fynd, rydyn ni wedi cael pedwar digwyddiad afiach y tymor hwn sydd wedi peri loes.”

‘Aeddfed a phroffesiynol iawn’

Fel bob tro o’r blaen, mae Steve Cooper wedi canmol ymateb Morgan Whittaker, gan ddweud ei fod e wedi ymddwyn yn “aeddfed a phroffesiynol iawn” ers y digwyddiad sydd bellach yn nwylo’r heddlu.

“Mae Morgan yn iawn,” meddai.

“Dw i’n falch iawn o’r ffordd mae e wedi ymateb.

“Fe welais i’r screenshots o’r sarhad gafodd e ac mae’n ofnadwy beth mae rhai pobol yn ei ddweud.

“Mae e a’i deulu wedi cymryd y peth yn ddifrifol iawn.

“Mae e wedi ymdrin â’r peth mewn ffordd aeddfed iawn.

“Dw i’n meddwl bod dwy ochr i hyn o hyd – yr elfen o adrodd amdano’n swyddogol wrth godi ymwybyddiaeth ar yr un pryd.

“Y pethau y tu ôl i’r llenni yw’r pethau mwyaf pwerus weithiau, a sut mae hynny’n cael effaith ar unigolyn sy’n cael ei sarhau, eu teuluoedd a’u ffrindiau.

“Mae [Morgan Whittaker] wedi bod yn dda yr wythnos hon, mae e wedi ymarfer yn dda a dw i wedi siarad â fe bob dydd am bopeth.”

Gemau mawr i ddod – a fydd cefnogwyr?

Daw’r helynt ar drothwy gêm gynghrair ola’r tymor, wrth i Abertawe baratoi i herio Watford, sydd eisoes wedi ennill dyrchafiad i’r Uwchgynghrair y tymor nesaf.

Ond mae gemau ail gyfle i ddod i’r Elyrch, a dim ond eu safle yn y safleoedd ail gyfle sydd eto i’w benderfynu ar sail y gêm olaf.

Barnsley, Brentford a Bournemouth yw’r timau eraill yn y gemau ail gyfle, a bydd yr Elyrch yn gwybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr ar ôl chwarae’r rownd olaf o gemau yn y gynghrair.

Yn y datblygiad mwyaf cyffrous, mae’n bosib y bydd modd i rai cefnogwyr fod yn bresennol ar gyfer y gemau ail gyfle ar ôl i’r cyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio – a’r gobaith yw y bydd gêm gartref Abertawe yn y gêm gyn-derfynol yn rhan o gynllun peilot Llywodraeth Cymru i gael torfeydd yn ôl ym myd y campau.

Gan fod timau Cymru dan arweiniad Llywodraeth Cymru a thimau Lloegr dan arweiniad Llywodraeth Prydain, dydy hi ddim yn glir eto a fyddai’r rheolau’n wahanol ar gyfer y ddau gymal – mae Casnewydd eisoes yn dweud y bydden nhw’n cynnal y ddwy gêm heb dorfeydd pe bai sefyllfa o’r fath yn codi.

Yn ôl Steve Cooper, byddai cael y ‘Jack Army’ yn y stadiwm yn hwb i’r tîm.

“Mae cryn dipyn o waith yn cael ei wneud yn y clwb ar hyn o bryd,” meddai.

“Rydyn ni’n gobeithio cael y golau gwyrdd, dw i ddim yn sicr o’r union niferoedd, ond byddai cyfran dda o gefnogwyr yn ôl yn y stadiwm.

“Rydyn ni wedi cael amser hir i baratoi ar gyfer hyn, felly fe ddylen ni fod yn barod – boed hynny ar gyfer 50 o gefnogwyr neu 5,000.

“Gorau po gynted ag y cawn ni’r Jack Army yn ôl yn y stadiwm, rydyn ni jyst eisiau cael ein pobol ni’n ôl gartref cyn gynted â phosib – pan fo awyrgylch, mae’n hollol unigryw.

“Mae’r cefnogwyr wedi bod i ffwrdd yn rhy hir.”

Logo Abertawe

Pedwerydd chwaraewr tîm pêl-droed Abertawe wedi’i sarhau’n hiliol

Y clwb yn ymateb i negeseuon dderbyniodd Morgan Whittaker yn ystod eu boicot o’r cyfryngau cymdeithasol, ac mae’r heddlu wedi cael gwybod

Sefydliadau pêl-droed yn dilyn esiampl Abertawe wrth gynnal boicot o’r cyfryngau cymdeithasol

Bydd yn dechrau am 3 o’r gloch brynhawn Gwener (Ebrill 30) ac yn dod i ben am 11.59 nos Lun (Mai 3)
Ben Cabango

Facebook yn cau cyfrifon wedi i bêl-droedwyr Cymru dderbyn camdriniaeth hiliol

Gareth Bale yn ychwanegu ei lais a’r cwmni’n dweud eu bod wedi ymrwymo i “wneud mwy”
Yan Dhanda

Pêl-droediwr Asiaidd Abertawe’n galw am waharddiad oes am negeseuon hiliol ar y we

Alun Rhys Chivers

“Dydy’r cwmnïau cyfryngau cymdeithasol ddim wedi fy argyhoeddi y byddan nhw’n gwneud yn well y tro nesaf” medd Yan Dhanda wrth golwg360