Mae Warren Gatland wedi enwi ei garfan 37 dyn ar gyfer taith y Llewod.

Mae 10 Cymro, 11 o Loegr, wyth Gwyddel ac wyth o’r Alban wedi cael eu henwi yn y garfan, ac Alun Wyn Jones fydd y capten.

Y naw Cymro arall ydy Josh Adams, Dan Biggar, Gareth Davies, Taulupe Faletau, Wyn Jones, Ken Owens, Louis Rees-Zammit, Justin Tipuric a Liam Williams.

Does dim lle felly i Jonathan Davies na Josh Navidi, sydd wedi cael eu gadael allan.

Ymhlith yr enwau mawr eraill fydd ddim yn teithio mae Johnny Sexton, Kyle Sinckler, Billy Vunipola, Leigh Halfpenny a Tomos Williams.

Roedd disgwyl i Jonathan Davies deithio i Dde Affrica, yn enwedig ar ôl i George North gael ei ddiystyru gan anaf i’w ben-glin.

Ond mewn penderfyniad annisgwyl mae Warren Gatland wedi dewis y Gwyddel Bundee Aki a’r Albanwr Chris Harris fel opsiynau canolwyr.

Bydd Dan Biggar, Finn Russell ag Owen Farrell yn brwydro i wisgo’r crys rhif 10 yn sgil absenoldeb Johnny Sexton.

Mae Sam Simmonds, rhif wyth Caerwysg a chwaraewr Ewropeaidd y flwyddyn, wedi cael ei ddewis gan Warren Gatland er iddo gael ei anwybyddu’n gyson gan Loegr ers ennill yr olaf o’i saith cap yn 2018.

“Y dewis mwyaf heriol yr wyf wedi bod yn rhan ohono”

“Rydyn ni’n credu ein bod ni wedi dewis carfan sy’n gallu ennill cyfres yn Ne Affrica,” meddai Warren Gatland.

“Nid yw dewis carfan y Llewod byth yn hawdd ac, mewn sawl ffordd, dyma’r dewis mwyaf heriol yr wyf wedi bod yn rhan ohono.

“Yn ystod y tair wythnos diwethaf mae’r hyfforddwyr a fi wedi trafod pob safbwynt yn drylwyr.

“Gwelsom rai perfformiadau rhagorol yn y Chwe Gwlad yn ddiweddar, felly mae cystadleuaeth am leoedd wedi bod yn anodd gyda rhai penderfyniadau anhygoel o dynn i’w gwneud.

“Rydym wedi gadael rhai chwaraewyr talentog iawn allan, sy’n rhoi syniad o gryfder y garfan hon ac rydym yn gwybod pa mor bwysig fydd y rhestr stand-by.”

“Torchi llewys”

Mae Gatland yn edrych ymlaen at herio hyfforddwr De Affrica, Rassie Erasmus, gan ddweud ar lionsrugby.com: “Mae ganddyn nhw hyfforddwr gwych ac roedd yr hyn a gyflawnwyd ganddyn nhw yng Nghwpan y Byd yn rhagorol.

“Maen nhw’n mynd i fod yn anhygoel o galed. Rydyn ni’n gwybod pa mor gorfforol y gallan nhw fod a gwelsom hynny yn rownd derfynol Cwpan y Byd ond mae’n rhaid i ni dorchi llewys ac ymateb i’r corfforoldeb hwnnw… ond hefyd bod yn gadarnhaol iawn yn y ffordd rydyn ni eisiau chwarae.

“Mae gennym chwaraewyr cyffrous. A gobeithio cawn ni’r cydbwysedd hwnnw’n iawn rhwng y gwaith caled ond hefyd chwarae rygbi gwych.”

Dim cadarnhad a fydd cefnogwyr

Bydd y Llewod yn cynnal gwersyll hyfforddi ar ynys Jersey ac yn herio Japan ym Murrayfield cyn iddyn nhw deithio i Dde Affrica ddiwedd Mehefin.

Yna bydd y garfan yn chwarae pum gêm yn ystod eu paratoadau yn Ne Affrica, cyn i’r tair gêm yn erbyn y Springboks, gan ddechrau ar 24 Gorffennaf.

Does dim cadarnhad a fydd cefnogwyr yn cael mynychu’r gemau hyd yma.

Y Garfan

Blaenwyr: Tadhg Beirne (Iwerddon), Jack Conan (Iwerddon), Luke Cowan-Dickie (Lloegr), Tom Curry (Lloegr), Zander Fagerson (Yr Alban), Taulupe Faletau (Cymru), Tadhg Furlong (Iwerddon), Jamie George (Lloegr), Iain Henderson (Iwerddon), Jonny Hill (Lloegr), Maro Itoje (Lloegr), Alun Wyn Jones (c)(Cymru), Wyn Jones (Cymru), Courtney Lawes (Lloegr), Ken Owens (Cymru), Andrew Porter (Iwerddon), Sam Simmonds (Lloegr), Rory Sutherland (Yr Alban), Justin Tipuric (Cymru), Mako Vunipola (Lloegr), Hamish Watson (Yr Alban).

Olwyr: Josh Adams (Cymru) Bundee Aki (Iwerddon), Dan Biggar (Cymru), Elliot Daly (Lloegr), Gareth Davies (Cymru), Owen Farrell (Lloegr), Chris Harris (Yr Alban), Robbie Henshaw (Iwerddon), Stuart Hogg (Yr Alban), Conor Murray (Iwerddon), Ali Price (Yr Alban), Louis Rees-Zammit (Cymru), Finn Russell (Yr Alban), Duhan van der Merwe (Yr Alban), Anthony Watson (Lloegr) Liam Williams (Cymru).

Gemau’r Llewod

  • 26 Mehefin – Japan (Murrayfield)
  • 3 Gorffennaf – Stormers
  • 7 Gorffennaf – Tîm De Affrica trwy wahoddiad
  • 10 Gorffennaf – Sharks
  • 14 Gorffennaf – De Affrica A
  • 17 Gorffennaf – Bulls
  • 24 Gorffennaf – De Affrica
  • 31 Gorffennaf – De Affrica
  • 7 Awst – De Affrica

Alun Wyn Jones wedi’i enwi yn gapten y Llewod

Hon fydd pedwaredd taith y Llewod i Alun Wyn Jones, sydd wedi ennill record o 157 o gapiau yn ystod ei yrfa