Mae clo Cymru Alun Wyn Jones wedi cael ei enwi’n gapten Llewod Prydain ac Iwerddon ar gyfer y daith i o Dde Affrica’r haf hwn.
Roedd y gŵr 35 oed, sy’n chwarae i’r Gweilch, yn gapten ar Gymru wrth iddyn nhw ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ym mis Mawrth.
Hon fydd pedwaredd taith y Llewod Alun Wyn Jones, sydd wedi ennill record o 157 o gapiau yn ystod ei yrfa.
Mae ef wedi ennill pum Chwe Gwlad, tair Camp Lawn ac wedi chwarae mewn dwy rownd gynderfynol yng Nghwpan y Byd yn ystod ei yrfa.
Ef oedd y ffefryn i gael ei enwi yn gapten, tra bod Maro Itoje, Stuart Hogg ac Owen Farrell hefyd yn opsiynau.
Arweiniodd Alun Wyn Jones y Llewod i fuddugoliaeth yng ngêm olaf y gyfres yn erbyn Awstralia yn Sydney wyth mlynedd yn ôl, pan anafwyd ei gyd-Gymro, Sam Warburton.
A bydd yn awr wrth y llyw o ddechrau’r daith ym mis Gorffennaf a mis Awst sy’n cynnwys tri phrawf yn erbyn pencampwr y byd, y Springboks.
“Sgwrs wych”… yn y diwedd!
Yn dilyn ei benodiad, dywedodd Jones: “Yn amlwg dw i’n falch iawn, yn freintiedig iawn. Cael eich dewis yn y garfan yw beth rydych chi am glywed i ddechrau, ac mae cael bod yn gapten hefyd yn fraint, gyda’r enwau sydd wedi bod o’r blaen, a beth mae’r chwaraewyr hynny wedi’i gyflawni.”
Pan ofynnwyd iddo sut yr oedd wedi cael gwybod, dywedodd Jones: “Cefais alwad gan Gats nos Sul, galwad y methais i, i ddweud y gwir! Meddyliais i ‘gwell ifi ffonio fe nôl’!
“Cafon ni sgwrs gyflym a derbyniais, yn amlwg. Mae gen i lawer iawn o falchder o ychwanegu hyn at fy CV, ond yn amlwg mae llawer o waith i’w wneud unwaith y byddwn ni’n mynd allan yno.”
Dywedodd hyfforddwr y Llewod, Warren Gatland: “Fe ges i banig am ychydig oriau cyn iddo fy ffonio’n ôl! [Ond] roedd yn sgwrs wych.
“Roedd tipyn bach o bryder wrth sylweddoli’r cyfrifoldeb – ond mae wedi gwneud gwaith gwych i Gymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’n anrhydedd mawr cael bod yn gapten ar daith – ond mae’n rhaid i chi chwarae hefyd.”
“Mae wedi cwblhau rygbi!”
Roedd cyn-gapten Cymru, Sam Warburton, capten y Llewod hefyd yn 2013 a 2017, wrth ei fodd yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb.
Dywedodd ar lionsrugby.com: “Does neb yno sydd wedi gwneud yr hyn mae Alun Wyn wedi’i wneud. Roeddwn i’n meddwl wedyn mai ef fyddai’r dyn perffaith i’w ddilyn i’r frwydr.
“Mae e’n ddewis eithaf amlwg mewn gwirionedd. Mae’n mynd i gael parch llawn pawb yn yr ystafell wisgo honno heb os nac oni bai. Mae ei CV rygbi wedi’i gwblhau nawr, mae wedi cwblhau rygbi!”
Gallwch ddarllen mwy am y garfan, isod.