Mae disgwyl i Michael Neser, y bowliwr cyflym o Awstralia, chwarae yn ei gêm gyntaf i dîm criced Morgannwg heddiw (dydd Iau, Mai 6), wrth iddyn nhw deithio i herio Swydd Gaerhirfryn, y tîm sydd ar frig eu grŵp yn y Bencampwriaeth.

Bydd Morgannwg wedi cael hwb ar ôl curo Caint yn eu gêm ddiwethaf – eu gêm dosbarth cyntaf fyrraf erioed, a ddaeth i ben o fewn deuddydd – ac maen nhw’n bedwerydd yn y tabl, ar yr un nifer o bwyntiau â Swydd Northampton.

Mae Swydd Gaerhirfryn ar y brig ar ôl iddyn nhw guro Sussex o bum wiced – eu trydedd buddugoliaeth eleni – ond yn ddiddorol ddigon, nhw sydd â’r record am y batiad byrraf erioed yn erbyn Morgannwg – 14 o belawdau yn Lerpwl yn ystod tymor 1997 pan gododd y Cymry y tlws.

Bryd hynny, Waqar Younis, y bowliwr o Bacistan, wnaeth y difrod wrth gipio saith wiced am 25 wrth i’r Saeson gael eu bowlio allan am 51 – ac fe gipiodd Waqar ddwy wiced mewn dwy belen ddwywaith yn ystod y batiad.

Dyna’r tro diwethaf i Forgannwg ennill gêm Bencampwriaeth yn Swydd Gaerhirfryn.

Roedden nhw hefyd yn fuddugol yn 1993 pan darodd Adrian Dale 95 a Matthew Maynard, y prif hyfforddwr presennol, 55 i gipio buddugoliaeth o saith wiced – mae hon yn un o saith buddugoliaeth i Forgannwg mewn 37 o gemau ym Manceinion – gyda’r gweddill yn 1946, 1951, 1957, 1965, 1968 a 1989.

Dydy Morgannwg ddim wedi chwarae yn Old Trafford ers 2015, a bu’n rhaid iddyn nhw ganlyn ymlaen cyn i Jacques Rudolph a Chris Cooke ddod i’r llain i achub yr ornest wnaeth orffen yn gyfartal.

Y timau

Mae sawl newid yng ngharfan Morgannwg ar gyfer y gêm, gyda Michael Neser wedi’i gynnwys am y tro cyntaf, wrth i Dan Douthwaite wella o anaf i’w droed, ac mae Ruaidhri Smith, sydd wedi’i gynnwys am y tro cyntaf eleni, hefyd yn holliach ar ôl anafu llinyn y gâr.

Mae Jamie McIlroy o Lanfair ym Muallt allan o hyd wrth iddo fe barhau i wella o anaf i’w asen.

Does dim lle i Michael Hogan, y bowliwr 39 oed, na James Weighell yn sgil polisi Morgannwg o gylchdroi’r bowlwyr ac mae’r Cymro James Harris wedi dychwelyd i Middlesex ar ôl chwarae dwy gêm ar fenthyg i’r sir lle dechreuodd ei yrfa.

O safbwynt y gwrthwynebwyr, maen nhw wedi dewis Jimmy Anderson, bowliwr cyflym a phrif gipiwr wicedi Lloegr, sydd wedi gwella o anaf i’w goes.

Carfan Swydd Gaerhirfryn: D Vilas (capten), J Anderson, T Bailey, J Bohannon, S Croft, A Davies, K Jennings, D Lamb, L Livingstone, Saqib Mahmood, M Parkinson, L Wells, L Wood

Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), J Cooke, L Carey, K Carlson, D Douthwaite, M Labuschagne, D Lloyd, M Neser, B Root, A Salter, R Smith, C Taylor, T van der Gugten

Sgorfwrdd

Ym marn Marnus: “Gall dod yma fy ngwella i fel cricedwr”

Alun Rhys Chivers

Mae gan brif dîm criced Cymru un o chwaraewyr gorau’r byd