Bydd ymosodwr Cymru, Kieffer Moore, ar gael wrth i Gaerdydd herio ei hen glwb, Rotherham, ddydd Sadwrn.

Mae Moore, a dreuliodd gyfnod llwyddiannus ar fenthyg yn Ne Swydd Efrog yn 2017, yn ffit eto ar ôl dioddef anaf Achilles yn erbyn Birmingham yr wythnos ddiwethaf.

Mae Sean Morrison (penelin) a Max Watters (llinyn y gar) wedi eu hanafu tra bod Junior Hoilett wedi cael anaf wrth hyfforddi ddydd Iau a bydd yntau’n colli allan hefyd.

Yn ogystal, bydd Will Vaulks yn methu’r gêm yn erbyn ei gyn-glwb, a hynny drwy waharddiad.

Bydd Rotherham yn cael disgyn o’r Bencapwriaeth os nad ydynt yn ennill – ac os yw Derby yn curo Sheffield Wednesday, efallai na fydd buddugoliaeth yn ddigon chwaith.

Mae eu taith i dde Cymru yn cwblhau rhediad caled o 12 gêm mewn 37 diwrnod, sy’n golygu bod llawer o garfan Millers wedi blino’n lân.

Gallai Angus MacDonald fod yn ffit ar ôl anaf ac nid yw problem ffêr Joe Mattock yn ddigon drwg i’w gadw allan o gêm y mae’n rhaid ei hennill.

Mae George Hirst allan ar ôl dioddef anaf, tra bod Clark Robertson hefyd yn colli allan gyda phroblem Achilles.