Daeth y glaw â diwrnod cyntaf gêm Morgannwg yn erbyn Swydd Gaerhirfryn yn y Bencampwriaeth i ben ychydig yn gynnar heddiw, wrth i’r ymwelwyr gyrraedd 117 am dair.

Dyna’r pedwerydd tro i’r chwaraewyr orfod gadael y cae, gan darfu ar ymdrechion Morgannwg i gael mantais yn gynnar yn yr ornest.

Dim ond 39 o belawdau oedd yn bosib, ac fe lwyddodd y gogleddwr David Lloyd i sgorio 78 yn yr ychydig amser oedd ar gael i chwarae rhwng cawodydd o law.

Dechrau araf

Penderfynodd Morgannwg fatio cyn i’r glaw ohirio dechrau’r gêm am 25 munud ac fe allen nhw fod wedi colli wiced gynnar wrth i David Lloyd ddod o fewn trwch blewyn i gael ei fowlio – heblaw bod y wiced wedi aros yn ei hunfan wrth i’r bêl ei tharo heb symud y catiau.

Ar ôl cael ei daro ar ei ben, cafodd Joe Cooke ei fowlio’n ddiweddarach yn y belawd gan Saqib Mahmood am 15, ac roedd Morgannwg yn 35 am un yn y deuddegfed pelawd.

Wrth chwarae criced sirol am y tro cyntaf ers Gorffennaf 2019, bowliodd Jimmy Anderson, bowliwr cyflym profiadol Lloegr, yn gywir iawn gan ildio dim ond 13 rhediad yn ei chwe phelawd agoriadol.

Daeth Marnus Labuschagne i’r llain ac fe gymerodd e 24 o belenni i sgorio’i rediad cyntaf wrth i Forgannwg orffen sesiwn y bore’n 65 am un.

Dim ond pum pelen fowliodd Anderson at yr Awstraliad – y tro cyntaf erioed i’r ddau herio’i gilydd – cyn i’r batiwr ddarganfod dwylo diogel y wicedwr a’r capten Dane Vilas ar ôl cinio, a Morgannwg yn 82 am ddwy wrth i Anderson ddod o fewn deg wiced i 1,000 o wicedi dosbarth cyntaf.

Wrth i Billy Root ddod i’r llain, roedden nhw’n chwarae o dan y llifoleuadau yn nhywyllwch Manceinion cyn i’r glaw ddod eto i orfodi’r chwaraewyr oddi ar y cae a chymryd te cynnar, gyda 50 o belawdau’n weddill o’r diwrnod.

Sesiwn rwystredig i orffen

Chwarter awr yn unig o griced oedd yn bosib wedi’r egwyl cyn i’r glaw ddod eto, ac fe ddychwelodd y chwaraewyr i’r cae am 5.30yh, gyda Lloyd heb fod allan ar 72 ar ôl taro cyfres o ergydion i’r ffin.

Ond cafodd ei ddal yn hynod gampus gan y wicedwr Vilas oddi ar fowlio Luke Wood, wrth i’r maeswr redeg o’r tu ôl i’r wiced draw i’r dyfarnwr sgwâr ar ochr y goes a neidio i ddal ei afael ar y bêl.

Daeth y chwaraewyr oddi ar y cae am y pedwerydd tro ar ôl 39 pelawd, a doedd hi ddim yn bosib iddyn nhw ddychwelyd eto.

‘Amodau anodd’

“Roeddan nhw’n amodau anodd a phan alwon ni’n gywir, doeddwn i ddim yn meddwl fasan nhw gynddrwg,” meddai David Lloyd.

“Ro’n i’n bles i gael cychwyn ac yn siomedig i gael allan ar y diwedd, ond doedd o ddim yn ddiwrnod drwg i ni ar y cyfan.

“Jimmy [Anderson] ydi’r [bowliwr] gorau yn y byd ac roedd o’n brofiad gwych i mi ei wynebu fo am y tro cynta’.

“Rydach chi’n ei wylio fo o hyd ar y teledu ac roedd o’n eitha’ swreal ei wynebu fo ar ôl ei weld o’n cipio’r holl wicedi yna. Mi wnes i fwynhau’r her.

“Mae o’n bowlio hyd eitha’ anodd ac mae o’n cael tipyn o fowns.

“Mae o’n dalach nag yr ydach chi’n ei feddwl ond roedd o’n brofiad da iawn.”

 

Old Trafford

Swydd Gaerhirfryn v Morgannwg: taith i herio’r tîm sydd ar y brig

Hon yw gêm gynta’r bowliwr cyflym o Awstralia, Michael Neser i Forgannwg

Ym marn Marnus: “Gall dod yma fy ngwella i fel cricedwr”

Alun Rhys Chivers

Mae gan brif dîm criced Cymru un o chwaraewyr gorau’r byd