Mae Aaron Ramsey yn dweud ei fod ar bigai’r i fod yn holliach mewn pryd i allu cynrychioli Cymru yn nhwrnament Ewro 2020.
Dim ond 19 o 47 gêm Juventus ym mhob cystadleuaeth y tymor hwn y mae chwaraewr canol cae Cymru wedi dechrau oherwydd anafiadau.
Ymunodd Ramsey â’r cewri Seria A ar drosglwyddiad am ddim o Arsenal yn 2019 ond mae ei gyfnod yn Turin wedi cael ei effeithio gan anafiadau cyson.
Dim ond unwaith y mae Ramsey wedi bod ar gael i Gymru yn eu 11 gêm ryngwladol ddiwethaf, ond mae’n benderfynol i chwarae i dîm Rob Page yr haf hwn.
Dywedodd Ramsey wrth gylchgrawn FourFourTwo: “Mae wedi bod yn gyfnod rhyfedd yn gyffredinol, sydd heb helpu – cyrraedd Juventus gydag anaf, ceisio cael fy ffitrwydd yn ôl, yna rydych chi’n cael eich taro gan bandemig a bu’n rhaid i ni ddechrau eto.
“Mae wedi bod yn anodd cael unrhyw gysondeb, ac mae hynny wedi cael effaith arna i’n chwarae dros Gymru.
“Rwy’n falch iawn o chwarae dros Gymru ac eisiau chwarae iddyn nhw gymaint ag y gallaf, ond mae wedi bod yn gyfyngedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
“Y nod yw mynd dod yn ôl i ffitrwydd a dangos yr hyn rwy’n gallu ei wneud eto.”
Ramsey’n teimlo fod ganddo “flynyddoedd lawer” o’i flaen
“Rwy’n dal i deimlo bod gen i flynyddoedd lawer o’m blaen, ac mae’n ymwneud â chael fy nghorff yn ôl i le priodol lle gall berfformio’n rheolaidd eto. Rwy’n hyderus y gallaf wneud hynny.
“Roedd mor wych bod yn rhan o’r gwersyll lle bu’n rhaid i ni guro Azerbaijan i ffwrdd a gwneud hynny, yna mynd ag ef i’r gêm olaf ac ennill.
“Roedd sgorio cwpl o goliau’r noson honno i’n hanfon i rowndiau terfynol eraill yn berffaith, yn foment dw i’n falch ohoni.
“Roeddwn i wedi colli llawer o gemau yn yr ymgyrch honno, felly er mwyn i mi deimlo fy mod wedi cyfrannu a helpu’r tîm roedd yn bwysig.”