Mae Conor Hourihane wedi dweud bod Abertawe angen “ychydig bach o bopeth” i ennill y gemau ail-gyfle a dychwelyd i’r Uwchgynghrair yn Lloegr.
Gydag un ornest o’r tymor arferol yn weddill, mae Abertawe am orfod herio Barnsley neu Bournemouth yn rownd gynderfynol y gemau ail-gyfle.
Bydd Abertawe yn teithio i Watford yfory ar gyfer yr ornest olaf honno, cyn y gemau ail-gyfle.
Ac mae Conor Hourihane, sydd ar fenthyg o Aston Villa gyda’r Elyrch, wedi ennill dyrchafiad drwy gemau ail-gyfle ddwywaith yn ei yrfa.
Roedd ei flas cyntaf o’r gemau ail-gyfle yn League One yn 2015-16 gyda Barnsley yn curo Millwall 3-1 yn Wembley.
Bu hefyd yn rhan o garfan Aston Villa wnaeth ennill dyrchafiad i’r Uwchgynghrair drwy’r gemau ail-gyfle yn 2019.
“Rwyt ti angen ychydig bach o bopeth,” meddai wrth BBC Sport Wales.
“Rwyt ti angen i bethau fynd o dy blaid. Mae’n rhaid i ti berfformio.
“Rwyt ti angen i bawb chwarae eu rhan – mae’n rhaid i’r gôl-geidwad wneud ambell arbediad da, rhaid i’r amddiffyn fod yn gadarn ac rwyt ti angen i dy ymosodwyr berfformio.
“Ac rwyt ti’n sicr angen ychydig o lwc.”
“Dim un tîm yn ffefrynnau”
Brentford yw ffefrynnau’r bwcis i ennill y tlws yn Wembley, gyda Bournemouth yn ail o flaen Barnsley.
Mae Abertawe ar waelod y rhestr yn dilyn diwedd anghyson i’r tymor.
Ond dyw Hourihane ddim yn credu bod yr un tîm yn fferfrynnau.
“Rwy’n credu bod Brentford wedi bod ar dipyn o rediad, a gall Barnsley ennill gêm unrhyw adeg.
“Ond dw i ddim yn teimlo bod yr un tîm yn mynd i mewn i’r gemau ail-gyfle fel fferfrynnau amlwg.”
Dyheu am gael chwarae yn yr Uwchgynghrair eto
Mae Hourihane yn dyheu am gael chwarae yn yr Uwchgynghrair eto.
“Dyna un nod yr hoffwn ei gyflawni cyn ymddeol, gan chwarae’n ôl yn yr Uwchgynghrair,” meddai.
“Mae’n debyg na fydd gen i lawer o gyfleoedd i geisio cyflawni hynny.
“Gobeithio y gall hynny fod gydag Abertawe, os ydyn ni’n llwyddiannus yn y gemau ail-gyfle.”
Bydd Abertawe’n herio Watford ddydd Sadwrn (Mai 8) am 12:30yh.