Tarodd Dan Douthwaite (61) a Callum Taylor (58) hanner canred yr un ar ail ddiwrnod digon derbyniol i dîm criced Morgannwg yn erbyn Swydd Gaerhirfryn yn y Bencampwriaeth ym Manceinion.
Roedden nhw i gyd allan am 344 yn eu batiad cyntaf ar ddiwrnod glawiog eto, wrth i’r tîm cartref gyrraedd 22 heb golli wiced erbyn diwedd y diwrnod hir.
Ar ôl dechrau’r diwrnod ar 117 am dair, collodd Morgannwg wiced Billy Root oddi ar seithfed pelen y dydd, wrth i Jimmy Anderson daro’i goes o flaen y wiced wrth i’r bêl wyro’n ôl at y batiwr llaw chwith.
Dechreuodd y capten Chris Cooke yn gryf cyn cael ei ollwng gan Luke Wells yn y slip, wrth i’r maeswr fethu â phlygu i gyrraedd y bêl, ond daeth y glaw yn fuan wedyn i orfodi’r chwaraewyr oddi ar y cae, gyda 12 o belawdau wedi’u colli.
Cyrhaeddod Morgannwg 150 gydag ergyd i’r ffin gan Kiran Carlson, cyn i hwnnw gael ei ddal gan Anderson yn y gyli oddi ar fowlio Danny Lamb yn y belawd ganlynol.
Bu bron i’r batiwr newydd Callum Taylor golli ei wiced yntau yn yr un modd oddi ar y belen ganlynol, wrth i Josh Bohannon yn methu â dal ei afael ar y bêl yn sgwâr ar yr ochr agored.
Rai pelawdau’n ddiweddarach, daeth y glaw eto a bu’n rhaid i’r chwaraewyr adael y cae unwaith eto.
Cafodd dwy belawd eu colli y naill ochr a’r llall i’r egwyl am ginio, a Morgannwg erbyn hynny’n 162 am bump, a chyfrifoldeb Cooke a Taylor oedd sicrhau bod Morgannwg yn cipio pwynt batio cyntaf.
Ond collodd Cooke ei wiced wrth gael ei ddal yn y gyli gan Liam Livingstone oddi ar fowlio Josh Bohannon wrth i hwnnw gwblhau pelawd Saqib Mahmood, oedd wedi gadael y cae ag anaf i’w ffêr.
Taylor a Dan Douthwaite gafodd y cyfrifoldeb wedyn, ac fe gipion nhw’r pwynt ar ôl 71 o belawdau gyda Douthwaite yn mynd yn ei flaen i gyrraedd ei hanner canred oddi ar 95 o belenni, ond tarodd Anderson ei goes o flaen y wiced yn y belawd olaf cyn te, a’r sgôr yn 271 am saith.
Cyrhaeddodd Taylor ei hanner canred yntau oddi ar 127 o belenni gyda Michael Neser yn bartner iddo – a’r ddau wedi bod i’r un ysgol yn Queensland ar adegau gwahanol.
26 o belenni’n unig barodd Neser wrth sgorio 17 cyn cael ei ddal yn y cyfar ychwanegol agos, Keaton Jennings oddi ar fowlio’r troellwr coes Matt Parkinson, a’r sgôr yn 314 am wyth.
Cwympodd y nawfed wiced ar yr un sgôr wrth i Mahmood ddychwelyd i fowlio, a tharo coes Taylor o flaen y wiced.
Daeth rhywfaint o amddiffyniad gan y pâr olaf, yr Iseldirwr Timm van der Gugten a’r Cymro Andrew Salter, ond yr Iseldirwr oedd allan wrth gael ei ddal yn syth ar ochr y goes gan Luke Wood oddi ar fowlio Mahmood.
Batiad cynta’r Saeson
18 o belawdau’n unig wynebodd y Saeson ar ddiwedd y dydd, gydag Alex Davies a Keaton Jennings wrth y llain.
Roedden nhw’n wynebu Neser a’r gogleddwr David Lloyd oedd yn agor y bowlio i Forgannwg, ond chawson nhw fawr o drafferth o dan y llifoleuadau, er iddyn nhw oroesi un cyfle yr un.
Bu bron i Jennings gael ei fowlio cyn cicio’r bêl oddi ar y wiced yn amddiffynnol, a goroesodd Davies waedd am goes o flaen y wiced yn erbyn Neser, a fowliodd bum pelawd ddi-sgôr allan o chwech.
‘Hapus iawn’
“Dw i’n credu ein bod ni’n hapus iawn gyda’r ffordd yr aeth hi heddiw,” meddai Dan Douthwaite.
“Mae hi ond yn drueni na allai fod wedi digwydd ychydig yn gynt gyda’r glaw o gwmpas ddoe a fory.
“Pe baen ni, o bosib, wedi gallu cael tro atyn nhw â’r bêl o gwmpas amser cinio heddiw, byddai hynny wedi bod yn braf iawn.
“Ar y cyfan, rydyn ni’n hapus iawn â heddiw.
“Do’n i ddim yn teimlo’n esmwyth fy hun ar y dechrau.
“Ar y llain honno, pan aeth y bêl ychydig yn hŷn, aeth pethau ychydig yn haws.”
Diwrnod rhwystredig i Forgannwg yn y glaw ym Manceinion
Swydd Gaerhirfryn v Morgannwg: taith i herio’r tîm sydd ar y brig