Mae Caerdydd yn herio Rotherham gartref yng ngêm olaf y tymor am 12:30 heddiw (dydd Sadwrn, Mai 7).

Mae Rotherham yn dal i frwydro i aros yn y Bencampwriaeth a bydd tîm Paul Warne yn awyddus felly i drechu’r Adar Gleision.

A bydd Caerdydd bendant yn “mynd allan i ennill y gêm”, meddai’r rheolwr Mick McCarthy, er nad oes ganddyn nhw obaith bellach o gyrraedd y gemau ail-gyfle.

“Mae’r ffaith bod safle Rotherham yn y Bencampwriaeth yn y fantol yn beth enfawr ac maen nhw wedi llwyddo i gael eu hunain yn y safle hwnnw,” meddai McCarthy.

“Maen nhw wedi rhoi cyfle iddyn nhw eu hunain.

“Gwyliais eu gemau yn erbyn Brentford a Luton y noson o’r blaen lle roedden nhw’n chwarae’n dda ac maen nhw’n ymladd at y diwedd, felly oes, mae yno lot yn y fantol yn y gêm hon.

“Mae timau Paul Warne yn rhoi popeth beth bynnag, yn union fel ni.

“Dydyn ni ddim yn mynd allan i ddangos i bawb sut i chwarae gêm wych o bêl-droed – rydyn ni’n mynd allan i’w hennill.

“Mae timau Warney wedi bod yn wych ac rwy’n hoff iawn o Paul. Ond gymaint ag yr wyf yn ei hoffi, byddwn yn mynd allan i ennill y gêm hefyd.”