Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi canmol cynnydd yr Elyrch eleni wrth iddyn nhw baratoi i herio Watford oddi cartref yng ngêm ola’r gynghrair heddiw.

Maen nhw eisoes wedi sicrhau eu lle yng ngemau ail gyfle’r Bencampwriaeth, tra bod eu gwrthwynebwyr wedi ennill dyrchafiad awtomatig – rhywbeth y byddai’r Elyrch wedi bod yn mynd amdano oni bai am rediad gwael tua diwedd y tymor.

Hwn yw’r pumed tîm yn hanes yr Elyrch i enill 80 o bwyntiau mewn tymor, a byddai buddugoliaeth heddiw (dydd Sadwrn, Mai 8) yn mynd â nhw i’r trydydd nifer fwyaf o bwyntiau erioed i’r clwb – ac 13 o bwyntiau’n well na’r tymor diwethaf.

“Rydyn ni eisiau chwarae’r 46 gêm hyn a mynd i’r gemau ail gyfle’n gwybod ein bod ni wedi rhoi popeth i mewn i’r ymgyrch yn y gynghrair oedd gyda ni,” meddai Steve Cooper.

“Pan ewch chi i’r gemau ail gyfle, rydych chi’n mynd gan wybod eich bod chi mewn safle arbennig am reswm arbennig.

“P’un a gawn ni 80, 81 neu 83 o bwyntiau, mae’n gyfanswm da.

“Mae’n gynnydd ar y tymor diwethaf yn ystod tymor sydd wedi bod yn unigryw yn nhermau’r amserlen i bawb.

“Dw i’n credu bod y chwaraewyr yn haeddu tipyn o glod am hynny, oherwydd mae wedi bod yn anodd.

“Mae’n anodd siarad am ddiweddglo oherwydd mae gyda ni’r hyn yw’r rhan bwysicaf i ddod, sef y gemau ail gyfle.”

Hiliaeth yn bwnc llosg eto fyth

Er y byddai Abertawe wedi dymuno i’r holl sylw fod ar gêm ola’r tymor a’r gemau ail gyfle yr wythnos hon, roedd hiliaeth yn bwnc llosg eto fyth, ar ôl i negeseuon hiliol gael eu hanfon at Morgan Whittaker yn dilyn y gêm yn erbyn Derby, sef hen glwb Whittaker.

Dywedodd yr ymosodwr wrth y wasg yr wythnos hon ei fod e’n “disgwyl” cael ei sarhau, yn dilyn achosion tebyg yn ymwneud â Yan Dhanda, Jamal Lowe a Ben Cabango.

Mae’r heddlu’n ymchwilio ar ôl i’r chwaraewr 20 oed, a sgoriodd yn y gêm, dderbyn negeseuon ar Instagram yn ystod boicot y byd pêl-droed o’r cyfryngau cymdeithasol mewn ymgais i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol.

Eglurodd e wrth golwg360 fod gan ei fam groen gwyn a bod ei dad yn groenddu, er nad oedd e’n ei adnabod nac yn gwybod o ble mae gwreiddiau ei deulu.

Dyma’r tro cyntaf i Whittaker gael ei sarhau yn y fath fodd, ond mae’n dweud nad oedd e wedi cael syndod.

“Ro’n i wedi cael gwefr o’r gêm, cael y triphwynt a’r gôl ac roedd fy nheulu i lawr yn gwylio’r gêm, es i’n ôl a dywedodd fy nghariad wrtha i, ‘Mae neges wedi cael ei hanfon ar Instagram a dyw hi ddim yn neis iawn,” meddai.

“Wir i chi, wnes i ddim teimlo unrhyw beth oherwydd do’n i ddim yn synnu ei fod e wedi digwydd.

“Ro’n i’n disgwyl rhywbeth tebyg.

“Dywedodd fy nghariad nad oedd hi’n iawn fy mod i’n disgwyl rhywbeth fel yna pan mai’r cyfan dw i wedi’i wneud yw gwneud fy ngwaith.

“Do’n i ddim yn synnu ond do’n i ddim eisiau i’r peth ddifetha fy niwrnod.

“Yr hyn sy’n ei wneud e’n waeth yw ei bod hi wedi dod o gyfrif ffug, doedd dim llun o’u hwyneb felly roedden nhw wedi gallu creu cyfrif mewn 30 eiliad ac anfon neges fel honno.

“Yn yr ystafell newid wedyn, ro’n i’n dangos fy ffôn i bobol oherwdd fe ges i rai negeseuon yn dweud bod fy nathliad yn ormod ac yna, fe ddywedodd Jamal Lowe y byddwn i’n derbyn rhai negeseuon hiliol, gan jocian.

“Ac wedyn dw i’n mynd yn ôl i rywun hiliol. Mae cymaint o ddisgwyliad nawr, rydych chi’n gweld un gwahanol bob dydd a does dim byd yn digwydd o hyd.

“Does gyda nhw mo’r teclynnau i amddiffyn unrhyw un. Os gall pobol greu enw ag enw hiliol yn rhan ohono fe, yna dydyn nhw ddim yn amddiffyn unrhyw un.

“Roedden ni’n cynnal boicot am benwythnos ac mae’n amlwg nad yw e wedi gweithio oherwydd roedd pobol yn dal i ddanfon negeseuon.

“Yn hytrach na’i wneud e am benwythnos, efallai, [dylen ni] ei wneud e am fis neu rywbeth oherwydd po fwyaf o arian mae’r cwmnïau hyn yn ei golli, dyna’r unig ffordd rydyn ni am eu cael nhw.”

Steve Cooper

Hiliaeth: “Mae ffordd bell i fynd,” meddai rheolwr yr Elyrch

Steve Cooper yn ymateb wrth i bedwerydd chwaraewr, Morgan Whittaker, gael ei sarhau