Gallai timau pêl-droed Abertawe a Chasnewydd gael eu heffeithio gan y cynlluniau i symud rowndiau terfynol y gemau ail gyfle er mwyn cynnal rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn Wembley.
Roedd disgwyl i’r gêm fawr rhwng dau glwb o Loegr, Chelsea a Manchester City, gael ei chynnal yn Istanbul ar Fai 29, ond mae Twrci bellach ar restr deithio ‘goch’ Llywodraeth Prydain o ganlyniad i Covid-19.
Ers hynny, fe fu cryn bwyso am newid lleoliad y gêm fawr a chan mai dau dîm o Loegr sy’n herio’i gilydd, mae Wembley ymhlith yr opsiynau sydd wedi’u cynnig.
Ond fe allai Abertawe fod yn chwarae yn rownd derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth ar Fai 29, gyda Chasnewydd o bosib yn rownd derfynol gemau ail gyfle’r Ail Adran ddeuddydd yn ddiweddarach pe baen nhw’n cyrraedd y gemau ail gyfle ac yna’n llwyddiannus.
Mae lle i gredu bod newid y dyddiadau neu’r lleoliad yn cael ei ystyried ar hyn o bryd, ond dydy UEFA ddim wedi gwneud cais ffurfiol i gael gwneud y naill na’r llall eto.
Mae Llywodraeth Prydain eisoes wedi annog cefnogwyr i beidio â mynd i Istanbul, ond mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi gwrthod gwneud sylw am y sefyllfa hyd yn hyn.