Daeth cadarnhad bellach mai Barnsley fydd gwrthwynebwyr tîm pêl-droed Abertawe yng ngemau ail gyfle’r Bencampwriaeth.

Daw hyn ar ôl i’r Elyrch golli o 2-0 yn Watford heddiw (dydd Sadwrn, Mai 8).

Bournemouth a Brentford fydd yn cystadlu am y lle arall yn y ffeinal yn Wembley.

Roedd Brentford eisoes wedi sicrhau eu lle cyn heddiw, ac fe wnaethon nhw guro Bristol City o 3-1 yng ngêm gynghrair ola’r tymor.

Mae’r Elyrch, felly, yn gorffen yn bedwerydd ar ôl i goliau Andre Gray ac Isaac Success sicrhau’r triphwynt i Watford.

Coddd Norwich y tlws yn Barnsley, gyda’r gêm yn gorffen yn gyfartal 2-2 wrth amddifadu’r pencampwyr o’r record o 30 o fuddugoliaethau mewn un tymor.

Bu’n rhaid i Norwich unioni’r sgôr ddwywaith i gipio pwynt yn erbyn Barnsley, gydag Emi Buendia a’r eilydd Adam Idah yn ymateb i goliau Cauley Woodrow a Conor Chaplin.

Mae Bournemouth wedi colli tair gêm o’r bron cyn mynd i mewn i’r gemau ail gyfle, a hynny ar ôl i Will Forrester a Tommy Smith sgorio goliau Stoke wrth iddyn nhw ennill o 2-0.

Y gwymp

Ben arall y tabl, y timau sydd wedi cwympo yw Sheffield Wednesday, Rotherham a Wycombe, wrth i Gaerdydd helpu Derby i oroesi.

3-3 oedd hi rhwng Derby a Sheffield Wednesday ond ildiodd Rotherham gôl ar ôl 88 munud i orffen yn gyfartal 1-1 â Chaerdydd, gyda’r goliau’n dod gan Marlon Pack a Lewis Wing.