Doedd dim criced yn bosib ar drydydd diwrnod gêm Bencampwriaeth Morgannwg yn erbyn Swydd Gaerhirfryn ym Manceinion.

Daeth y glaw trwm ar ddechrau’r diwrnod a phenderfynodd y dyfarnwyr ar ddechrau’r prynhawn fod y tywydd yn rhy wael i aros i weld a fyddai’n bosib dechrau’n hwyr.

Mae’r tîm cartre’n 22 heb golli wiced yn eu batiad cyntaf, wrth ymateb i gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg o 344 i gyd allan.

Mae disgwyl tywydd gwell yfory ond does dim gobaith gwirioneddol erbyn hyn o sicrhau buddugoliaeth i’r naill dîm a’r llall.

Morgannwg yn cyrraedd sgôr parchus ar ddiwrnod glawiog eto ym Manceinion

344 i gyd allan ar ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerhirfryn yn Old Trafford
Old Trafford

Diwrnod rhwystredig i Forgannwg yn y glaw ym Manceinion

Yr ymwelwyr wedi colli tair wiced, ond y gogleddwr David Lloyd wedi taro 78 allan o gyfanswm o 117 am dair yn erbyn Swydd Gaerhirfryn
Old Trafford

Swydd Gaerhirfryn v Morgannwg: taith i herio’r tîm sydd ar y brig

Hon yw gêm gynta’r bowliwr cyflym o Awstralia, Michael Neser i Forgannwg