Gyda’r gorsafoedd pleidleisio ar gyfer Etholiad y Senedd 2021 bellach ar gau, heddiw (dydd Gwener 7 Mai) bydd llawer o weithgarwch ledled Cymru wrth i’r broses gyfrif ddechrau.

Er bod etholiadau fel arfer yn mynd drwy’r nos gyda’r enillwyr yn aml yn hysbys ymhell cyn toriad y wawr, arweiniodd y realiti o fyw yn ystod pandemig at benderfyniad i ohirio’r cyfrif tan ddydd Gwener.

O ganlyniad, ni fydd yr amrywiaeth o staff a benodir gan gynghorau yn dechrau’r broses ddilysu tan o leiaf 9am – ac nid yw’r cyfrif ei hun yn debygol o ddechrau tan ar ôl amser cinio.

A chyda phellter cymdeithasol yn golygu y bydd gan lawer o ganolfannau cyfrif lai o staff na’r arfer, gallai hyn gymryd mwy o amser nag arfer hefyd.

Felly, mae’n debygol mai fin nos – neu hyd yn oed yfory o bosibl – y bydd cyfansoddiad llawn chweched sesiwn y Senedd yn hollol hysbys.

Yr etholaethau

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am drefnu’r cyfrif – arweinir hyn fel arfer gan Brif Weithredwr y cyngor yn gweithredu fel Swyddog Canlyniadau Dros Dro.

Ar gyfer awdurdodau sy’n cynnwys mwy nag un etholaeth, gallant gynnal y ddau gyfrif mewn un lleoliad canolog – fel yn achos Sir y Fflint – neu ei ledaenu ar draws mwy nag un cyfleuster – fel y mae Gwynedd yn dewis ei wneud.

Fel sy’n wir am Etholiad Cyffredinol San Steffan, caiff 40 aelod o’r Senedd eu hethol gyda’r dull ‘cyntaf i’r felin’ (First Past the Post yn Saesneg) i gynrychioli etholaethau.

Gall pa mor hir y mae hyn yn ei gymryd ddibynnu ar ba mor agos yw’r canlyniad, nifer yr etholwyr, yn ogystal â nifer yr ymgeiswyr… ond dylai’r canlyniadau ddechrau llifo i mewn erbyn canol y prynhawn.

Y rhanbarthau

Yn etholiadau’r Senedd, fodd bynnag, nid cyhoeddi canlyniadau’r etholaethau unigol yw’r diwedd.

Etholir yr 20 aelod sy’n weddill ar ffurf cynrychiolaeth gyfrannol ar draws pum rhanbarth etholiadol wedi’u rhannu’n fras ar sail poblogaeth, sef: Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gorllewin De Cymru, Canol De Cymru a Dwyrain De Cymru.

Fodd bynnag, dim ond ar ôl i’r holl seddi etholaethol gael eu penderfynu a’u datgan yn swyddogol y gellir ethol yr AoSau hyn.

Mae hyn oherwydd bod dyraniad y seddi rhanbarthol i’r pleidiau yn dibynnu ar faint o seddi etholaethol y mae pob plaid eisoes wedi’u hennill ym mhob ardal.

O ganlyniad. mae’n debygol y bydd yr ymgeiswyr hyn yn gorfod aros cryn dipyn o amser – ni ddisgwylir y rhain cyn nos Wener.

Etholiadau eraill

Mewn rhai rhannau o Gymru, fodd bynnag, bydd cyfrif pellach os bydd unrhyw isetholiadau sirol neu gymunedol.

Mae hyn yn wir ar Ynys Môn, lle cafodd pleidleiswyr yn wardiau Seiriol a Chaergybi bedwar papur pleidleisio, yn ogystal a ward Gwernymynydd yn Sir y Fflint.

Bydd rhaid aros yn hirach fyth am ganlyniadau Etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, fodd bynnag, gyda’r cyfrif ddim yn digwydd tan ddydd Sul (9 Mai).

*