Mae’r Ceidwadwyr wedi cipio sedd Llafur yn isetholiad Hartlepool, a hynny am y tro cyntaf ers bron i 50 mlynedd.

Roedd Jill Mortimer wedi curo’r ymgeisydd Llafur Dr Paul Williams o 6,940 o bleidleisiau.

Mae’n ergyd i’r arweinydd Llafur Syr Keir Starmer wrth i’r etholaeth yng ngogledd ddwyrain Lloegr, oedd wedi cefnogi Brexit, droi’n las am y tro cyntaf ers cael ei greu 47 mlynedd yn ôl.

Roedd pleidleiswyr yn y dref wedi cefnogi’r ymgeisydd Ceidwadol Jill Mortimer i fod yn Aelod Seneddol gan guro Dr Paul Williams, oedd yn frwd dros aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd ac wedi ymgyrchu dros gynnal ail refferendwm yn ystod ei gyfnod fel AS yn Stockton South rhwng 2017 a 2019.

Dywedodd Jill Mortimer ei fod yn “ganlyniad hanesyddol”, gan sicrhau mwyafrif o 6,940 o bleidleisiau. Fe enillodd hi 15,529 o’r pleidleisiau o’i gymharu â 8,589 i Dr Williams.

Ychwanegodd y byddai’n “gweithio’n ddiflino dros Hartlepool, a wna’i ddim eich gadael i lawr.”

Fe fydd cwestiynau nawr am strategaeth Keir Starmer fel arweinydd Llafur yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda phleidleiswyr traddodiadol Llafur i weld yn troi ffwrdd o’r blaid yn sgil Brexit.