Mae ’na bresenoldeb mawr o swyddogion Heddlu Dyfed Powys yn Heol y Wig yn ardal Llambed yng Ngheredigion bore ma (dydd Gwener, Ebrill 7) wrth i’r chwilio barhau am ddyn mewn cysylltiad ag ymosodiad difrifol.

Mae’r Heddlu’n rhybuddio pobl i beidio codi unrhyw un sy’n bodio ar hyn o bryd gan y gallai’r dyn geisio gwneud hynny.

Mae gwiriadau ar y ffyrdd hefyd yn cael eu cynnal ar yr A485, i’r de o Langeitho, mewn cysylltiad â’r chwilio.

Credir bod y dyn yn gwisgo cot lliw Khaki, a throwsus gwyrdd tywyll. Dylai unrhyw un sy’n ei weld gadw draw a ffonio’r heddlu ar 999.