Fe fydd y cyfri ar gyfer etholiadau Senedd Cymru yn dechrau fore heddiw (Mai 7), ar ol i orsafoedd pleidleisio gau am 10pm neithiwr.
Er hynny, bydd rhaid aros nes yn hwyrach ymlaen yn y dydd cyn i’r canlyniadau ddechrau cael eu cyhoeddi.
Cafodd pobol ifanc 16 ac 17 oed, a dinasyddion tramor, bleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau’r Senedd ddoe, a dyma’r etholiad cyntaf ers newid yr enw o Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r Senedd.
Tra bod y Blaid Lafur yn galw am newid radical i’r Deyrnas Unedig, a Phlaid Cymru’n addo refferendwm ar annibyniaeth, gallai’r Llywodraeth nesaf benderfynu ar ddyfodol perthynas Cymru â’r undeb.
“Ymgyrch anghonfensiynol”
“Mae pobol Cymru wedi bwrw eu pleidleisiau,” meddai Mark Drakeford, ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau.
“Ar ran Llafur Cymru, dw i’n diolch i bawb sydd wedi pleidleisio drosom ni, ac i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr etholiadau hyn – yn enwedig pobol 16 ac 17 oed sydd wedi defnyddio eu hawl i bleidleisio am y tro cyntaf.
“Dw i, a fy mhlaid, yn wynebu’r ychydig ddyddiau nesaf gyda’r un hwyliau ag y gwnaethom ni wynebu’r ymgyrch – yn barod i wasanaethu, yn barod i arwain adferiad gan roi swyddi gyntaf, ac yn barod i symud Cymru yn ei blaen.”
“Mae hi wedi bod yn ymgyrch anghonfensiynol, ond un sydd wedi’i brwydro mewn ysbryd da gan bleidiau gwleidyddol,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Diolch i’r swyddogion niferus ledled y wlad sydd wedi galluogi i’r etholiad yma ddigon mewn ffordd sâff ac effeithlon.
“Gallai’r canlyniadau gymryd sbel i’n cyrraedd, ond mae ein neges yn aros yr un fath, rhaid gwneud gwarchod swyddi ac ail-sbarduno economi Cymru yn flaenoriaeth.”
Dechrau cyfri
Mae newidiadau er mwyn sicrhau ymbellhau cymdeithasol yn golygu nad oes disgwyl i’r cyfri ddechrau nes 9am heddiw, a bydd y canlyniadau’n dechrau cyrraedd yn ystod y prynhawn.
Mae’n debyg fod mesurau diogelwch wedi arwain at giwiau hir tu allan i orsafoedd pleidleisio ddoe, yn arbennig yng Nghaerdydd a Chasnewydd.
Still queueing in Cardiff West. ? #seneddelection pic.twitter.com/BURMAEzdS8
— Ben Price (@BenRPrice) May 6, 2021
Mae cynlluniau mewn lle gan y Swyddogion Canlyniadau i ailddechrau’r broses gyfri fory (Mai 8), os oes lle i gredu na fydd gweithwyr yn gallu gorffen cyfri’r pleidleisiau heno.
Gallai olygu na fydd canlyniad terfynol y Senedd yn cael ei gyhoeddi nes y penwythnos os yw rhai o’r etholaethau yn agos, a bod angen ailgyfri.
Nid oes yr un blaid wedi ennill mwyafrif yng Nghymru, gan olygu bod disgwyl i’r blaid fydd yn ennill y mwyaf o seddi ddechrau trafod gyda phleidiau eraill, neu aelodau annibynnol, er mwyn ffurfio’r Llywodraeth nesaf.
Bydd aelodau newydd y Senedd yn cyfarfod wythnos nesaf i ethol Llywydd newydd.
Yr Alban, Lloegr, a Llundain
Bydd y cyfri yn dechrau am 9 fore heddiw yn yr Alban hefyd, wedi i bleidlais Holyrood ddod i ben neithiwr.
Nid oes disgwyl i’r canlyniad terfynol gyrraedd nes fory (Mai 8), gan fod cyfyngiadau Covid ac ymbellhau cymdeithasol yn golygu nad oedd hi’n bosib cyfri dros nos, fel sy’n arfer digwydd.
Mae’n debyg y bydd canlyniadau’r etholaethau yn cael eu cyhoeddi heddiw, a chanlyniadau’r rhanbarthau fory.
Cafodd y bleidlais ar gyfer penderfynu ar feiri nesaf Lloegr ei chynnal ddoe hefyd, ac mae disgwyl i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi yn nes ymlaen heddiw.
Roedd hyn yn cynnwys penderfynu ar faer Llundain, ond mae’n debyg mai fory fydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi.
- Bydd gan golwg360 flog byw yn dechrau tua 1pm yfory gyda’r canlyniadau a’r ymateb, yng nghwmni Prif Olygydd Golwg Garmon Ceiro, Gohebydd Seneddol Golwg Iolo Jones, colofnydd Golwg Jason Morgan, ynghyd â chyfraniadau gan Huw Prys Jones, Dylan Iorwerth, a’r academyddion Dr Dafydd Trystan (Coleg Cymraeg Cenedlaethol) a Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth)… a llawer mwy!