Bydd y rhestr o wledydd y bydd posib i bobol deithio iddyn nhw heb orfod hunanynysu yn cael ei gyhoeddi heddiw (Mai 7), ac mae’n debyg y bydd Portiwgal, Gwlad yr Iâ, a Malta yn eu plith.

Gallai Gilbraltar ac Israel fod ar y rhestr hefyd, a bydd yr angen i hunanynysu, a chael profion coronafeirws, wrth ddychwelyd i Loegr yn dibynnu ar system goleuadau traffig newydd.

Bydd teithio dramor yn cael ei ganiatáu o Fai 17 ymlaen, a bydd gwledydd yn cael eu gosod ar restrau gwyrdd, oren, a choch.

Ni fydd rhaid i bobol sy’n dychwelyd o leoliadau sydd ar y rhestr werdd hunanynysu, ond bydd rhaid iddyn nhw gael un prawf coronafeirws wrth gyrraedd yn ôl.

Bydd pobol sy’n dychwelyd o wledydd ar y rhestr oren yn gorfod hunanynysu am o leiaf pum diwrnod, a chael dau brawf.

Mae’n ofynnol i bobol sy’n dychwelyd o lefydd ar y rhestr goch i fynd i gwarantîn mewn gwesty am un-ar-ddeg noson, gyda chost o £1,750 i deithwyr ar eu pennau eu hunain.

Bydd asesiadau’n seiliedig ar nifer o ffactorau, gan gynnwys faint o boblogaeth y wlad sydd wedi cael eu brechu, cyfraddau achosion, amrywiolion newydd, a mynediad y wlad at ddata gwyddonol dibynadwy.

Mae disgwyl y bydd rhai o wledydd mwyaf poblogaidd Ewrop ar y rhestr oren i ddechrau, ond gall llefydd fel Sbaen, yr Eidal, Ffrainc, a Groeg symud i’r rhestr werdd cyn yr haf.