Mae diffyg cyfarfod cyhoeddus i drafod cynigion i newid categori iaith Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth wedi cael ei feirniadu.

Gallai Ysgol Bro Hyddgen ddod yr ysgol Gymraeg gyntaf i bob oed ym Mhowys os caiff cynlluniau eu cymeradwyo.

Cynhaliodd y cyngor ymgynghoriad saith wythnos yn ystod mis Rhagfyr 2020 a mis Ionawr 2021 a bydd canfyddiadau’r adroddiad ymgynghori yn cael eu hystyried gan y Cabinet ddydd Mercher (Mai 12).

Os caiff ei gymeradwyo, bydd y cyngor yn cyhoeddi hysbysiad statudol sy’n cynnig y newid yn ffurfiol.

Yna bydd angen ystyried adroddiad arall i gwblhau’r broses.

61% o blaid

Cwblhaodd cyfanswm o 440 o bobl y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad.

O’r ymatebwyr, mae 61% o blaid y cynnig, 37.5% yn erbyn, tra bod ychydig dros 1.3% ddim yn gwybod.

Pe bai’n cael sêl bendith, byddai dysgu cyfrwng Cymraeg yn cael ei gyflwyno fesul cam, o flwyddyn i flwyddyn, gan ddechrau gyda’r Dosbarth Derbyn ym mis Medi 2022.

Ond mae rhai yn dadlau na ddylai’r ymgynghoriad wedi digwydd oherwydd pandemig y coronafeirws.

Maen nhw hefyd yn dweud fod y Cyngor wedi dibynnu’n ormodol ar y cyfryngau cymdeithasol i hysbysu pobol am y newid.

“Colli allan ar adborth y gymuned gyfan”

Dywedodd un: “Mae llawer yn y gymuned yn teimlo’n ddig na fu unrhyw gyfle i gael cyfarfod cyhoeddus neu unrhyw gyfle i drafod y cynnig hwn gyda Chyngor Sir Powys.

“Sut allwch chi gasglu’n llawn y wybodaeth sydd ei hangen pan na ellir cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb?

“Rydych chi’n dibynnu ar gyfryngau cymdeithasol, nid yw pawb ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Rydych chi’n colli allan ar adborth y gymuned gyfan.”

Cyfarfod cyhoeddus “ddim yn ofynnol”

Wrth ymateb i’r feirniadaeth, dywedodd Cyngor Sir Powys wrth y Gwasanaeth Democratiaeth Leol: “Mae’r ymgynghoriad wedi’i gynnal yn unol â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion, nad yw’n ei gwneud yn ofynnol cynnal cyfarfodydd cyhoeddus.

“Nid yw’n wir fod y cyngor yn dibynnu ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn casglu ymatebion i’r ymgynghoriad.

“Fel sy’n ofynnol gan y Cod Trefniadaeth Ysgolion, dosbarthwyd gwybodaeth am yr ymgynghoriad i ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys rhieni, staff a llywodraethwyr Ysgol Bro Hyddgen, rhieni disgyblion sy’n mynychu ysgolion bwydo, darparwyr blynyddoedd cynnar a chynghorau cymuned.”

Ychwanegodd y Cyngor ei fod yn cynnal cyfarfodydd ar-lein gyda staff, llywodraethwyr a disgyblion Ysgol Bro Hyddgen.

Cyngor i benderfynu a fydd Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth yn dod yn ysgol Gymraeg i bob oed

“Byddai hyn yn sicrhau bod pob disgybl sy’n mynychu’r ysgol yn cael cyfle i ddod yn gwbl ddwyieithog, yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg”