Bydd Ystâd Rhug yn croesawu grŵp beiciau modur yn ddiweddarach y mis hwn wrth iddyn nhw ddechrau ar daith bum niwrnod, 1,070 milltir, ‘y ffordd anghywir’ rownd Cymru i godi arian ar gyfer Cymorth Canser Macmillan.

Bydd yr holl ymgeiswyr yn gwisgo fel y dyn stỳnt o’r 1970au, Evel Knievel, ac yn “fflapio ein clogynnau i gyfeiriad gwrthglocwedd o amgylch Cymru”.

Mae’r digwyddiad wedi dod yn adnabyddus mewn cylchoedd beiciau modur dros y deng mlynedd diwethaf, a dyma’r unig ddigwyddiad yn y Deyrnas Unedig sy’n cael ei gymeradwyo gan deulu Evel Knievel.

Eleni fydd eu hymweliad cyntaf ag Ystâd Rhug a bydd Knievels Cymru yn dechrau o Wrecsam ddydd Iau, Mai 27.

Yna, bydd y grŵp o tua 30 yn dilyn arfordir y gogledd i’r gorllewin gan stopio yn Ynys Môn.

Ar yr ail ddiwrnod, byddan nhw yn mynd tua’r de drwy Bentref Portmeirion gan orffen yn Aberystwyth.

Byddan nhw yn teithio i Ddinbych-y-pysgod ar y trydydd diwrnod, ac yna yn mynd o Ddinbych-y-pysgod i Drefynwy ar y pedwerydd diwrnod.

Ar y diwrnod olaf (dydd Llun Gŵyl y Banc, Mai 31), byddan nhw’n teithio yn ôl i’r gogledd, gan stopio yn Ystâd Rhug am tua 3.30yh, cyn dychwelyd i Wrecsam i orffen.

“Canwch eich corn neu godwch law”

“I nodi’r 10fed flwyddyn ers i’r digwyddiad ddechrau yn ôl yn 2012, mae’r daith wedi cael ei galw’n ‘Wrong Way Round’ a bydd yn gweld Knievels Cymru yn fflapio ein clogynnau i gyfeiriad gwrthglocwedd o amgylch Cymru,” meddai Jason Lewis, trefnydd y digwyddiad.

“Ers 2012, mae Ride Cymru wedi codi dros £135,000 i elusen.

“Mae ymgeiswyr yn codi nawdd cyn y digwyddiad ac yna’n ariannu eu taith eu hunain o amgylch Cymru – wedi gwisgo fel Evel Knievel.

“Er na ellir cynnal unrhyw ddigwyddiadau cyhoeddus yn 2021, canwch eich corn neu godwch law arnom ni os byddwn yn eich pasio o amgylch ymylon allanol Cymru a gobeithiwn eich gweld yn Rhug ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc.”

“Dod â gwen i wyneb” perchennog Ystâd Rhug

Dywedodd yr Arglwydd Newborough, perchennog Ystâd Rhug eu bod “yn falch iawn o allu cynnal Knievels Cymru yma yn Rhug”.

“Dyma’r union fath o ddigwyddiad rydyn ni eisiau ei annog yn Rhug gan ei fod mewn lleoliad da ac mae’r maes parcio yn berffaith ar gyfer croesawu grwpiau mawr,” meddai.

“Mae gennym hefyd y Siop Tecawê a siop i gefnogwyr Knievel Cymru ymweld â hi.

“Fel cefnogwr digwyddiadau elusennol ac elusennau lleol mae’n bleser gallu cynnig diod poeth i holl gyfranogwyr Ride Cymru pan fyddant yn stopio gyda ni ar ddydd Llun Gŵyl y Banc.

“Mae wedi bod mor dawel yma yn ystod y cyfyngiadau symud mae’n dod â gwên i’m hwyneb i weld ymwelwyr yn dychwelyd a digwyddiadau fel hyn yn digwydd unwaith eto.”