Bydd Cyfarfod Llawn cynta’r Senedd newydd yn cael ei gynnal fory (dydd Mercher, Mai 12) am 3yp.

Tasg gynta’r 60 Aelod fydd ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd, ac yna enwebu Prif Weinidog, os bydd y Senedd yn penderfynu gwneud hynny.

Dim ond 20 o aelodau all fod yn bresennol yn y Siambr ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau coronafeirws, felly bydd y gweddill yn ymuno drwy Zoom o’u swyddfeydd yn Nhŷ Hywel.

Bydd Aelodau’r Senedd yn pleidleisio yn adeilad y Senedd, gyda phawb yn cadw pellter oddi wrth ei gilydd.

Ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd

Mae’n rhaid i’r Senedd ethol Llywydd yn gyntaf, ac yna Dirprwy Lywydd, ac mae’n rhaid i hynny ddigwydd o fewn 21 diwrnod wedi’r etholiad.

Ar ôl mynd drwy’r broses enwebiadau, bydd pleidlais yn cael ei chynnal os bydd mwy nag un enwebiad, neu os oes gwrthwynebiad tuag at yr unig berson sydd wedi’i enwebu.

Wedi i’r Cadeirydd gyhoeddi’r canlyniad, bydd y Llywydd yn arwain unrhyw faterion sy’n weddill, gan gynnwys ethol y Dirprwy Lywydd.

Wrth ethol Dirprwy, mae’n rhaid i’r person fod yn aelod o grŵp gwleidyddol gwahanol i’r Llywydd.

Rhaid bod un ohonyn nhw’n cynrychioli’r grŵp gwleidyddol sydd mewn llywodraeth, a’r llall o grŵp un o’r pleidiau eraill.

Penodi Prif Weinidog

Mae’n rhaid i’r Senedd enwebu Aelod i’w benodi’n Brif Weinidog cyn pen 28 diwrnod ar ôl yr etholiad, ac mae’r broses yn digwydd ar ôl ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd.

Bydd y Llywydd yn gwahodd y Senedd i gytuno bod enwebiadau’n digwydd; os bydd unrhyw un yn gwrthwynebu, bydd pleidlais electronig yn cael ei galw.

Fydd y broses enwebu ddim ond yn digwydd os bydd mwyafrif yr Aelodau yn cytuno, ac os mai dim ond un sy’n cael ei enwebu, yna bydd y Llywydd yn datgan mai hwnnw yw’r enwebai.

Os oes mwy nag un, bydd yr Aelodau’n pleidleisio dros yr enwebai maen nhw’n ei ffafrio, a bydd y Llywydd yn cyhoeddi’r canlyniad i’r Senedd cyn argymell i Frenhines Loegr y dylid penodi’r Aelod hwnnw’n Brif Weinidog.

Adeilad y Senedd, Bae Caerdydd

Cabinet Llywodraeth Cymru’n cyfarfod am y tro cyntaf ers yr etholiad

Covid oedd ar yr agenda, gyda chyhoeddiad pellach ar y cyfyngiadau i ddod ddiwedd yr wythnos