Mae grwpiau hawliau sifil, diwygwyr etholiadol ac Aelodau Seneddol ar y ddwy ochr yn Nhŷ’r Cyffredin wedi condemnio cynlluniau’r Llywodraeth i orfodi’r cyhoedd i ddangos cerdyn adnabod cyn pleidleisio.
Mae’r Llywodraeth wedi amddiffyn y cynlluniau fel ymdrech i fynd i’r afael â thwyll etholiadol, ond dywedodd cyn-weinidog y Cabinet Torïaidd David Davis ei fod yn “ateb anrhyddfrydol i broblem nad yw’n bodoli”.
Yn ôl Stryd Downing, mae’n “ddull rhesymol” ac roedd 99.6% o bobol mewn cynlluniau peilot yn gwneud cardiau adnabod â llun yn ofynnol wedi llwyddo i bleidleisio heb anhawster.
Bydd deddfwriaeth ar y mater yn cael ei chynnwys yn Araith y Frenhines ddydd Mawrth (Mai 11).
“Mae dangos cerdyn adnabod i bleidleisio yn ddull rhesymol o fynd i’r afael â’r potensial ar gyfer twyll etholiadol yn ein system bresennol a chryfhau uniondeb ein hetholiadau,” meddai llefarydd swyddogol y Prif Weinidog.
“Mae dangos cerdyn adnabod yn rhywbeth y mae pobol yn ei wneud pan fyddant yn codi parsel yn y swyddfa bost neu lyfr llyfrgell.
“Dangosodd cynlluniau peilot [yn 2019] fod 99.6% o etholwyr wedi gallu bwrw eu pleidleisiau heb broblem mewn etholiadau lle’r oedd angen cerdyn adnabod.”
Ond dywedodd David Davis wrth The Independent: “Mae’n ddull … diangen arall gan y Llywodraeth.
“Does dim tystiolaeth yr ydw i’n ymwybodol ohoni fod problem gyda thwyll etholiadol yn yr orsaf bleidleisio.”
“Creu rhwystrau i bleidleiswyr tlotach”
Rhybuddiodd ymgyrchwyr y byddai pobol heb gerdyn adnabod yn cael eu heithrio o’r system wleidyddol o ganlyniad i’r cynlluniau, yn enwedig y rhai mewn grwpiau ymylol.
Dywedodd gweinidog democratiaeth yr wrthblaid, Cat Smith, nad oedd gan 3.5 miliwn o bleidleiswyr gardiau adnabod ffotograffig.
“Y siawns yw ein bod ni i gyd yn adnabod rhywun heb gerdyn adnabod ffotograffig, efallai mai eich Nain chi, eich mab, eich ffrind o’r bêl-droed ydyw? Pobol sydd heb drwydded yrru, a ddim yn teithio dramor?
“Bydd y polisi hwn yn creu rhwystrau i bleidleiswyr tlotach. Mae eisiau ei roi yn y bin.”
Dywedodd Jess Garland, cyfarwyddwr polisi ac ymchwil y Gymdeithas Diwygio Etholiadol: “Mae David Davis yn iawn: mae’r polisi hwn yn ateb sy’n chwilio am broblem.
“Mae pleidleisio’n ddiogel yn y Deyrnas Unedig, sy’n golygu bod y polisi hwn yn rhwystr diangen i gyfranogiad democrataidd.
“Mae angen i Weinidogion wrando ar y pryderon hyn a gollwng y cynlluniau costus hyn.”
Yn ddiweddarach, wfftiodd Boris Johnson bryderon mai ymgais i atal pleidleisiau rhai nad ydynt yn cefnogi’r Torïaid yw’r cynlluniau.
Dywedodd y Prif Weinidog wrth gynhadledd y wasg Downing Street: “Byddwn yn dweud bod hynny’n nonsens llwyr a’r hyn rydym am ei wneud yw diogelu democratiaeth, tryloywder a chywirdeb y broses etholiadol, ac nid wyf yn credu ei bod yn afresymol gofyn i bleidleiswyr am y tro cyntaf gynhyrchu rhywfaint o dystiolaeth o hunaniaeth.”
“Dileu twyll”
O dan gynlluniau’r Llywodraeth, bydd rheolau’n cael eu tynhau ar bleidleisio absennol a bygwth pleidleiswyr wrth i’r Llywodraeth anelu at “ddileu” twyll.
Bydd y mesurau a gyhoeddir yr wythnos nesaf yn cynnwys gwahardd cynaeafu pleidlais bost drwy gyfyngu ar nifer y pleidleisiau y gall person eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio ar ran eraill.
Dywedodd gweinidog y cyfansoddiad, Chloe Smith: “Mae dwyn pleidlais rhywun yn dwyn eu llais.
“Mae twyll, a’r bwriad i fygwth neu ddylanwadu ar bleidleisiwr, yn droseddau.
“Felly mae’r Llywodraeth hon yn dileu’r lle i ddifrod o’r fath ddigwydd yn ein hetholiadau.”