Mae cynlluniau i ddatgomisiynu Venue Cymru Llandudno fel ysbyty coronafeirws bellach ar waith.
Cafodd y theatr a’r ganolfan gynadleddau eu hailbwrpasu ym mis Ebrill y llynedd fel Ysbyty Enfys, pan roedd disgwyl ton o gleifion Covid-19.
Yn ffodus, nid oedd ei angen a chafodd ei ddefnyddio fel canolfan weinyddol ac ar gyfer apwyntiadau cyn geni Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gan aros wrth gefn yn ystod yr ail don y feirws.
Wrth gyflwyno brechlyn, daeth wedyn yn ganolfan frechu dorfol, fel rhan annatod o’r ymgyrch frechu fwyaf yn hanes y rhanbarth.
Nawr, mae’r camau cyntaf yn cael eu cymryd i’w drosglwyddo’n ôl i fod yn theatr erbyn diwedd yr haf.
Bydd y tanciau ocsigen enfawr ar ochr ddwyreiniol yr adeilad yn cael eu cymryd oddi yno fore Mawrth (Mai 11).
Dywedodd llefarydd ar ran Betsi Cadwaladr: “Bydd y tanciau ocsigen y tu allan i Ysbyty Enfys Llandudno yn Venue Cymru yn cael eu gwagio fel rhan o ddatgomisiynu arfaethedig yr ysbyty dros dro.
“Ni ddefnyddiwyd Ysbyty Enfys Llandudno i drin cleifion Covid-19 ac, oherwydd cyfraddau isel Covid-19 yng Ngogledd Cymru, nid oes angen y system ocsigen mwyach.”
Fodd bynnag, wrth i brinder cyflenwadau ocsigen yn India gael ei amlygu, mae yno rwystredigaeth ymhlith rhai nad oes modd ail-bwrpasu’r ocsigen
Ond nid oes ffordd ddiogel o gludo’r nwy o fewn y tanciau enfawr yn ôl Betsi Cadwaladr.
Gwaith swnllyd
Bydd y safle’n cael ei sicrhau tra bod y gwaith o wagio’r tanciau ocsigen yn digwydd, ac mae’r bwrdd iechyd wedi rhybuddio y bydd pobol leol yn gallu clywed y cwbl.
Fodd bynnag, sicrhaodd y llefarydd nad yw hyn yn peri unrhyw berygl i breswylwyr.
“Bydd y weithdrefn safonol hon yn swnllyd ac, yn dibynnu ar y tywydd, gall gymryd ychydig oriau,” meddai.
“Bydd cymylau i’w gweld o gryn bellter i ffwrdd, ond nid yw hyn yn niweidiol o gwbl ac nid oes unrhyw risg i iechyd.”