Mae Gordon Brown wedi lansio ymgyrch newydd i drïo cadw’r Alban yn rhan o’r Deyrnas Unedig, yn dilyn buddugoliaeth etholiadol yr SNP.

Fe wnaeth y cyn-Brif Weinidog gyhoeddi y bydd ei felin drafod, Our Scottish Future, yn dod yn “symudiad ymgyrchol” er mwyn brwydro’r “achos cadarnhaol, blaengar, a gwladgarol dros gael Alban ym Mhrydain”.

Daeth ei sylwadau wedi i’r SNP ennill pedwerydd tymor mewn grym yn Holyrood yn dilyn yr etholiad yr wythnos ddiwethaf.

Er nad oes gan yr SNP fwyafrif, gyda’r wyth Aelod Seneddol o’r Blaid Werdd mae’n golygu fod mwyafrif yr Aelodau Seneddol yn y llywodraeth o blaid cynnal ail refferendwm annibyniaeth.

Mae Nicola Sturgeon wedi dweud wrth Boris Johnson fod y canlyniad yn golygu fod y refferendwm yn “fater o pryd – nid os”.

Roedd Gordon Brown yn rhan allweddol o’r ymgyrch i gadw’r Alban yn yr undeb yn 2014, ac fe wnaeth ei sylwadau wrth i gyn-Brif Weinidog Llafur yr Alban rybuddio y byddai ail refferendwm.

“Bydd yna refferendwm arall dair i bum mlynedd ar ôl i ni adfer ar ôl y pandemig,” meddai Henry McLeish, wrth ysgrifennu yn The Scotsman.

“Mynd yn groes i’r brif farn”

Yn y cyfamser, mae Gordon Brown wedi dweud y bydd Our Scottish Future yn dadlau dros Deyrnas Unedig “wedi’i diwygio”, ac mae e wedi annog Boris Johnson i newid ei dactegau.

Cwynodd cyn-arweinydd y Blaid Lafur fod “undeboliaeth gyhyrog” Boris Johnson yn mynd “yn groes i’r brif farn yn yr Alban”.

“Mae ei ‘undeboliaeth gyhyrol’ yn cynnwys codi mwy o fflagiau, labelu pontydd a ffyrdd sydd wedi cael eu hariannu gan y Deyrnas Unedig fel anrhegion gan y Deyrnas Unedig, ac osgoi Llywodraeth yr Alban fe na bai’n bodoli,” meddai Gordon Brown yn The Scotman.

“Er ei fod wedi dathlu datganoli ar gyfer Llundain ei hun, mae’n ymddangos nad yw’n credu mewn datganoli ar gyfer y rhan o’r Deyrnas Unedig sydd ymhellach o’r canol.

“Ond ni fydd hynny’n gweithio. Pan ddywedodd fod datganoli yn drychineb, efallai ei fod yn meddwl ei fod yn ymosod ar yr SNP. Ond, mae’n mynd yn groes i’r brif farn yn yr Alban.”

Targedu’r 40%

Dywedodd Gordon Brown y byddai ei grŵp yn targedu’r “40% o Albanwyr sydd ddim ag ymroddiad cryf i’r undeb nag i annibyniaeth”.

Bydd ei grŵp yn dadlau dros “Deyrnas Unedig wedi’i diwygio gyda chanol mwy cynhwysol, fforwm parhaol i wneud penderfyniadau sy’n cynnwys arweinydd y cenhedloedd a’r rhanbarthau, ac i adnoddau’r Deyrnas Unedig gefnogi polisïau lleol ar gyfer ffyniant economaidd”.

Mynnodd fod rhaid i’r Prif Weinidog “wneud mwy na galw cyfarfodydd gydag arweinydd yr Alban a Chymru pan fo’r angen”.

“Dylai sefydlu adolygiad cyfansoddiadol, fel mae Keir Starmer wedi’i wneud yn barod, i ddyfodol y Deyrnas Unedig, gan ofyn iddo ymchwilio i ddewisiadau gwahanol i genedlaetholdeb a’r sefyllfa bresennol.

“Dylai alw cyfarfod gydag arweinwyr y rhanbarthau a’r cenhedloedd, nid fel digwyddiad unigol, ond fel gweithlu er mwyn mynd i’r afael ag ein hargyfyngau niferus.

“Fel y mae’n rhaid iddo sylweddoli’n awr, rhaid iddo newid os yw’r Deyrnas Unedig am aros ynghyd.”