Mae Coleg Llysfasi, gafodd ei sefydlu yn 1921, yn dathlu canmlwyddiant eleni.

Cafodd ei adeiladu ar ddiwedd yr 16eg Ganrif a newidiwyd yr enw gwreiddiol, Llys Llannerch, i Lys Masi bryd hynny.

Roedd yr ystâd yn eiddo i deulu Myddelton a’u disgynyddion o 1633 i 1909 a chafodd ei brynu gan Charles William Sandles o Swydd Gaer yn 1909.

Roedd ganddo gynlluniau i’w sefydlu fel Coleg Amaethyddol, ond yn 1911, oherwydd anawsterau ariannol, bu’n rhaid iddo ei werthu i frocer cotwm Mr R.W. Brown.

Parhaodd Mr Brown i ddatblygu’r fferm fel Coleg Amaethyddol tan 1919, pan gafodd ei brynu gan Gyngor Sir Ddinbych.

Daeth Coleg Llysfasi yn rhan o Goleg Cambria pan unodd Coleg Glannau Dyfrdwy â Choleg Iâl, Wrecsam, ym mis Awst 2013.

Newid mawr dros y ganrif ddiwethaf

Mae Elin Roberts, Pennaeth Llysfasi a Phennaeth Cynorthwyol Astudiaethau Technegol yng Ngholeg Cambria, yn dweud fod cryn dipyn o newid wedi bod yn y coleg dros y ganrif ddiwethaf.

“Coleg amaethyddol oedd o’n wreiddiol er mwyn i bobol ifanc gael dysgu sut i ffermio yng Nghymru a’r colonies fel ag yr oedden nhw bryd hynny,” meddai wrth siarad â golwg360.

“Ond erbyn heddiw rydan ni’n goleg tir seiliedig, hynny yw, rydan ni’n dysgu peirianneg amaethyddol, coedwigaeth, rheoli cefn gwlad, gofal anifeiliaid ac amaethyddiaeth.

“Mae hwnna wedi adlewyrchu’r newid sydd wedi digwydd yng nghefn gwlad dros y ganrif ddiwethaf.

“A dros y cyfnod hefyd, rydan ni wedi gweld esblygiad mawr yn y defnydd o dechnoleg ac mae hwnna wedi adlewyrchu’r galw yn y diwydiannau unigol hynny.

“Felly rydan ni wedi bod yn prynu peiriannau a thechnoleg newydd i sicrhau bod y bobol ifanc sydd gennym ni yma’n astudio wedi cael ymarfer efo’r peiriannau diweddaraf cyn mynd i’r byd gwaith.”

Mae’r coleg hefyd yn y broses o ddatblygu adeilad dysgu pwrpasol ac yn gobeithio y bydd o’n barod o fewn y ddwy i dair blynedd nesaf.

Lansio prosiect Net Zero Carbon

Mae’r amgylchedd bellach yn “bwysig iawn” i’r coleg hefyd, yn ôl Elin Roberts.

“Mae’r amgylchedd yn eistedd ochr yn ochr â gweithgareddau’r coleg,” meddai.

“Mae yna ofyn i bob ffarm erbyn heddiw i fod y cynhyrchu bwyd ond ar yr un pryd y gwarchod yr amgylchedd a lleihau ôl traed carbon.

“Rydan ni yn y broses o ddechrau ar brosiect o’r enw Net Zero Carbon ac mi fyddwn ni’n datblygu’r ffarm a’n gweithgareddau ni ar y campws i leihau ein hôl traed carbon.

“Mae hynny yn bwysig iawn achos mae busnesau i gyd yn gorfod mynd i lawr y trywydd yna rŵan a bydd y coleg yn rhoi cyfle i fyfyrwyr, y gymuned leol a’r economi leol i ddod i weld a gwneud hynny.”

Dim dathliadau ffurfiol am y tro

Ni fydd y coleg yn dathlu ei ganmlwyddiant tan y flwyddyn academaidd nesaf yn sgil pandemig y coronafeirws.

“Rydan ni wedi gohirio’r dathliadau tan y flwyddyn academaidd nesaf oherwydd Covid,” meddai Elin Roberts.

“Ond y bwriad ydi y bydd gennym ni lu o weithgareddau fydd yn apelio i bob oedran pan fyddwn .

“Bydd hi’n braf cael dathlu gyda’n gilydd bryd hynny.”